Cynulliad: Hawl i graffu ar ddarlledwyr cyhoeddus?

Bethan Jenkins
Bethan Jenkins: O blaid pwerau llawn dros ddarlledu

Mae Aelodau Cynulliad wedi bod yn trafod a ddylen nhw gael yr hawl i graffu ar benderfyniadau darlledwyr cyhoeddus, gan gynnwys BBC Cymru.

Dywedodd llefarydd diwylliant y Ceidwadwyr Suzy Davies fod y BBC â lle blaenllaw ym maes rhaglenni newyddion a materion cyfoes ond heb orfodaeth i roi cyfrif dros benderfyniadau rheoli a gwario i'r Cynulliad.

Mae Bethan Jenkins o Blaid Cymru wedi dweud bod angen pwerau llawn dros ddarlledu ac nad oedd y BBC yn Llundain "wedi addasu'n llawn" at deyrnas ddatganoledig.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol fod angen mwy o graffu ar y BBC wrth gynnig gwelliant y dylai Llywodraeth Cymru benodi aelodau Ymddiriedolaeth y BBC a bwrdd y rheoleiddiwr Ofcom.

Cafodd safon rhaglenni BBC, ITV Cymru ac S4C ei chanmol ond dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Janet Finch-Saunders y byddai mwy o graffu yn gwella'r safon wrth iddyn adrodd am faterion Cymreig.

Yn atebol

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant John Griffiths fod y llywodraeth am i ddarlledwyr fod yn atebol i'r Cynulliad.

Fe fyddai, meddai, yn trafod â Llywodraeth San Steffan er mwyn ceisio cefnogi ac amddiffyn darlledwyr yng Nghymru.

Mae llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth y BBC wedi dweud: "Mae'r BBC yng Nghymru ... yn atebol i dalwyr ffi'r drwydded drwy'r ymddiriedolaeth sy'n cynnwys aelod o Gymru.

"O dan delerau'r Siarter Frenhinol mae dyletswydd ar yr ymddiriedolaeth i sicrhau bod rheolwyr yn atebol ac amddiffyn annibyniaeth y gorfforaeth, yn enwedig ei hannibyniaeth olygyddol.

"Yn aml, mae ymddiriedolwyr, gan gynnwys yr un sy'n cynrychioli Cymru, yn cyfarfod ag Aelodau Cynulliad a gwleidyddion eraill.

"Ond mae'n hollbwysig nad yw craffu gwleidyddol ar berfformiad y BBC yn troi'n ymyrraeth ag agenda olygyddol y BBC."