Canlyniadau 'siomedig'

  • 3 Rhagfyr 2013
Huw Lewis
Huw Lewis: "Mae angen i bawb sy'n gweithio yn ac o gwmpas y sector addysg yng Nghymru edrych yn y drych yr wythnos yma. Mae'r canlyniadau Pisa yn glir ac mae'r neges yn glir iawn, mae'n rhaid i ni wella cyrhaeddiad a safonau addysgol ar draws y bwrdd".

Gan ymateb i ganlyniadau profion Pisa siomedig i Gymru, mae'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Huw Lewis wedi dweud bod angen i bawb yn y sector addysg weithio gyda'i gilydd i godi safonau addysg.

Dywedodd Mr Lewis: "Mae canlyniadau heddiw yn siomedig ac yn dangos bod dipyn i'w wneud er mwyn lleihau'r bwlch rhwng y gwledydd sy'n perfformio orau yn ôl yr OECD.

"Mae arwyddion bod gwelliant mewn sgiliau darllen, ond doedd gwelliant sylweddol ddim yn debygol yn y cyfnod hwn."

Aeth ymlaen i ddweud y byddai profion rhifedd a llythrennedd newydd, bandio ysgolion uwchradd, mwy o fuddsoddiad mewn ysgolion a system gymwysterau mwy trwyadl yn newid y sector addysg yng Nghymru.

Dywedodd y byddai perfformiad Cymru ym mhrofion Pisa 2015 yn gwella, ond bod angen amser i weithredu'r newidiadau.

"Nid oes modd gwella pethau yn gyflym. Rydw i'n disgwyl gweld effaith ein newidiadau yn y canlyniadau Pisa nesaf.

"Maen nhw'n uchelgeisiol ac rydw i'n credu y byddant yn cael effaith parhaol, cynaliadwy a phositif ar addysg yng Nghymru.

Bai Llafur?

Ond yn ôl Gweinidog Addysg Llywodraeth y DU, Michael Gove, mae addysg yng Nghymru wedi diodde' yn sgil penderfyniadau'r llywodraeth Lafur yng Nghymru.

Roedd Mr Gove yn cyfeirio at y penderfyniad i roi'r gorau i brofion TASau yng Nghymru yn 2004, yn ogystal â'r penderfyniad i gael gwared ar dablau perfformiad ysgolion, gan ddadlau bod hynny wedi lleihau effeithiolrwydd ysgolion Cymru yn sylweddol, ac yn golygu na all rieni weld pa ysgolion sy'n perfformio yn wael.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg yn y Cynulliad, Angela Burns, fod y canlyniadau yn gadael hygrededd Carwyn Jones "yn gareiau" gan ei fod yntau "wedi addo gwelliannau ym mherfformiad Pisa Cymru rai wythnosau yn ôl".

"Mae Llafur wedi bod yn rhedeg y gyfundrefn addysg yng Nghymru am 14 mlynedd, tra bod cenedlaeth gyfan o bobl ifanc wedi bod trwy gyfundrefn ysgolion anaddas i'r pwrpas Llafur, sy'n methu eu cymhwyso ar gyfer y ras fyd-eang."

'Pryderu'n fawr'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Simon Thomas, ei fod yn "pryderu'n fawr" am y canlyniadau, ac na fyddai Cymru yn gweld cynnydd tan fod yna welliant yn y sgiliau sylfaenol.

Cyfeiriodd at y ffaith fod Llafur wedi bod mewn Llywodraeth am nifer o flynyddoedd: "...mae gennym yr hawl i ddisgwyl canlyniadau gwell na hyn, ond mae gweinidogion addysg wedi methu â gwella'r sefyllfa yn rheolaidd.

"Nid oes unrhyw reswm pam fod disgyblion yng Nghymru yn perfformio yn waeth na'r rheiny yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

"Mae Plaid Cymru yn pryderu yn fawr am hyn, oherwydd mae cael y sgiliau a gwybodaeth sylfaenol yn hanfodol i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad gwael a chreu economi gyda sgiliau a gwerth yng Nghymru."

'Portread negyddol'

Yn ôl llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar addysg, Aled Roberts, mae methiannau'r system addysg yn portreadu Cymru mewn ffordd negyddol i weddill y byd, ond dywedodd fod angen ymateb mewn ffordd synhwyrol i'r canlyniadau yn hytrach na mewn panig.

"Mae angen i lywodraeth Lafur Cymru fod yn gwbl onest am y canlyniadau Pisa yn 2015.

"Yn lle gwneud datganiadau mawreddog am dargedau afrealistig, dylai llywodraeth Lafur Cymru ganolbwyntio ar sicrhau bod Cymru yn symud i fyny'r tablau, yn hytrach na disgyn ymhellach i lawr."

Dywedodd Mr Roberts bod buddsoddiad mewn marchnata mewn gwledydd tramor yn ofer pan fydd busnesau rhyngwladol yn edrych ar yr ystadegau.

"Mae angen i lywodraeth Lafur Cymru ddeall faint o effaith mae eu methiannau yn cael ar y wlad.

"Nid yw'n dda i forâl ein hathrawon. Nid yw'n dda i safle Cymru fel gwlad i fuddsoddi ynddi, ac yn fwyaf pwysig, nid yw'n dda i ddatblygiad addysgol a rhagolygon disgyblion Cymru."