Pro 12: siom i'r Cymry nos Wener

  • 29 Tachwedd 2013
Daeth ceisiau yn yr ail hanner i gipio'r pwyntiau i Glasgow

Gweilch 16 - 28 Glasgow

Colli oedd hanes y Gweilch yn erbyn Glasgow yn y Pro 12 nos Wener, er i'r tîm cartref fod ar y blaen am gyfnodau hir yn y gêm.

Roedd y tîm cartref heb 17 o chwaraewyr oedd un ai yn rhan o garfan Cymru neu wedi eu hanafu, tra bod Glasgow wedi gallu rhoi tîm cryf allan yn Abertawe.

Wedi cic gosb gynnar gan Ruaridh Jackson, Jeff Hassler sgoriodd gais gwych i roi'r fantais i'r Gweilch.

Daeth gweddill eu pwyntiau gan Sam Davies, wrth iddo drosi'r cais a sicrhau dwy gic gosb a chic adlam bellach.

Ond daeth Munster yn ôl gyda cheisiau gan Chris Cusiter, DTH van der Merwe a Ryan Wilson a chic gosb gan Stuart Hogg i gipio'r pwyntiau.

Gweilch: Richard Fussell; Hanno Dirksen, Tom Isaacs, Ben John, Jeff Hassler; Sam Davies, Tito Tebaldi; Duncan Jones (capten), Scott Baldwin, Aaron Jarvis, Lloyd Peers, James King, Tyler Ardron, Morgan Allen, Sam Lewis.

Eilyddion: Matthew Dwyer; Marc Thomas, Dan Suter, Graham Knoop, Arthur Ellis, Rhys Webb, Matthew Morgan, Aisea Natoga.

Glasgow: Stuart Hogg, Tommy Seymour, Mark Bennett, Sean Lamont, DTH Van der Merwe, Ruaridh Jackson, Chris Cusiter; Ryan Grant, Pat MacArthur, Ed Kalman, Jonny Gray, Al Kellock (capten) Rob Harley, Tyrone Holmes, Josh Strauss.

Eilyddion: Dougie Hall, Gordon Reid, Jon Welsh, Tom Ryder, James Eddie, Ryan Wilson, Henry Pyrgos, Finn Russell.

Roedd cicio cywir Ian Keatley yn ddigon i guro'r Dreigiau nos Wener

Dreigiau 14 - 18 Munster

Doedd y Dreigiau methu parhau gyda'i rhediad o ganlyniadau da yn dilyn buddugoliaeth dros Glasgow yr wythnos diwethaf, wrth i Munster guro nos Wener.

Roedd y tîm cartref ar y blaen o 6-3 ar yr egwyl, wedi dwy gic cosb gan Jason Tovey.

Daeth cais gan Matthew Pewtner i ymestyn y bwlch i'r Dreigiau, ond roedd Munster yn dal i fod o fewn cyrraedd diolch i gicio cywir Ian Keatley.

Ciciodd dair i roi'r fantais i Munster, cyn gôl adlam gan Tovey yn yr ail hanner.

Roedd hi'n edrych yn addawol i'r Dreigiau wrth i'r gêm ddod i ben, ond roedd mwy o gicio cywir gan Keatley i ddod, a sicrhau'r pwyntiau i'r Gwyddelod.

Dreigiau: Daniel Evans; Will Harries, Pat Leach, Ross Wardle, Matthew Pewtner; Jason Tovey, Richie Rees; Owen Evans, Sam Parry, Francisco Chaparro, Cory Hill, Rob Sidoli (capten), Lewis Evans, Nic Cudd, Netani Talei.

Eilyddion: Elliot Dee, Aaron Coundley, Dan Way, Matthew Screech, Ieuan Jones, Wayne Evans, Steffan Jones, Ashley Smith.

Munster: Felix Jones; Gerhard van den Heever, Keith Earls, James Downey, Denis Hurley; Ian Keatley, Duncan Williams; Dave Kilcoyne, Mike Sherry, Stephen Archer; Donncha O'Callaghan, Paul O'Connell; Billy Holland (capten), CJ Stander, James Coughlan.

Eilyddion: Damien Varley, James Cronin, BJ Botha, Ian Nagle, Barry O'Mahony, Cathal Sheridan, JJ Hanrahan, Ivan Dineen.