Arddangosfa i arlunydd am y tro cyntaf yn 99 oed

  • 1 Rhagfyr 2013
John Beck
Dyma'r tro cyntaf i'r arlunydd John Beck arddangos ei waith yn gyhoeddus

Mae artist o Sir Benfro yn cynnal arddangosfa o'i waith am y tro cyntaf a hynny yn 99 oed. Ers blynyddoedd mae John Beck wedi bod yn peintio a darlunio lluniau ond tan rwan dim ond gwerthu ei waith yn breifat mae o wedi wneud.

Ond ar ôl i'w deulu ei bersawdio mi fydd ei luniau yn cael ei ddangos yn amgueddfa ac oriel Dinbych y Pysgod. Bydd rhai o'i luniau diweddar ond hefyd hen luniau a darluniau yn rhan o'r casgliad.

"Dw i wedi peintio ers i mi gofio ond wnes i erioed feddwl am ddangos fy ngwaith i unrhyw un," meddai.

"Dw i bach yn nerfus am yr holl beth. Wnaeth e erioed daro fy mhen i y byddai gan bobl falle ddiddordeb. Ond beth os nad oes gyda nhw ddiddordeb?!"

Gweithio efo olew mae'r arlunydd fwyaf ac mae rheolwr oriel yng Nghaerfyrddin, Meg Anthony wedi helpu i ddewis lluniau. Dydy o ddim wedi dyddio ei luniau ond mae'r casgliad yn cynnwys ei ddiddordebau.

Newid arddull

John Beck
Dinbych-y-pysgod drwy lygaid John Beck

Un angerdd mawr sydd ganddo yw gwylio rasys ceffylau. Yn 1924 yn ddeng mlwydd oed mi aeth o i ras Cheltenham.

Mi gollodd o ambell ras yn ystod yr ail rhyfel byd am ei fod yn y fyddin ond heblaw am hynny dydy o ddim wedi colli 'run. Ceisio dal y naws yn ystod y rasys mae o wedi gwneud yn rhai o'u luniau.

Ym mhentref Coshton mae o yn byw gyda'i ferch, Prue a'i gwr Steve Barlow. Mae ei lygaid a'i iechyd wedi dirywio ychydig yn ddiweddar ond mae Prue yn dweud ei fod o dal yr un mor frwdfrydig ac erioed.

"Mae o yn dal i godi ac yn peintio bob dydd. Mae'n siwr na fyddai e yn cyfaddef hyn ond mae ei arddull wedi newid dros y blynyddoedd. Wrth i'w olwg waethygu mae ei waith wedi mynd yn fwy tywyll a haniaethol."

Er nad ydy ei luniau i gyd ar werth, mae na rhai wedi eu trawsnewid yn gardiau a phrintiau ar gyfer yr arddangosfa. Mi fydd yr arddangosfa yn cael ei chynnal rhwng Tachwedd 30 a Rhagfyr 21.