Uwchgynghrair Pêl-droed Cymru

Uwchgynghrair Cymru Corbett Sports Image copyright FAW

Chwaraewyd dwy gêm yn Uwchgynghrair Cymru nos Fawrth ond ni chafwyd yr un fuddugoliaeth.

AirbusUK Brychdyn 2-2 y Rhyl

Roedd hi'n gêm gyffrous ym Mrychdyn wrth i'r ymwelwyr ddod yn ôl ddwywaith i sicrhau pwynt.

Roedd y Rhyl ar ei hôl hi wedi dim ond wyth munud gyda gôl Tom Field o'r smotyn ond yn gyfartal wedi 43 munud diolch i gynnig Tom Roberts.

Aeth Airbus ar y blaen eto wedi 57 munud wrth i Chris Budrys sgorio, ond yna gyda phum munud yn weddill fe ddaeth yr ymwelwyr yn gyfartal eto - David Forbes y sgoriwr.

Y Bala 0-0 Aberystwyth

Cyfartal oedd hi yn Y Bala hefyd, ond heb yr un cyffro.

Gêm ddisgor a gafwyd, ac fe fydd y pwynt yn werth mwy i'r Bala tua'r gwaelod.