Halfpenny ar restr fer arall

Leigh Halfpenny Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bu'n flwyddyn ysgubol i Leigh Halfpenny

Mae blwyddyn Leigh Halfpenny eisoes yn un o'r goreuon iddo, ond fe ddaeth camp arall i'w ran ddydd Mawrth wrth iddo gael ei enwi ar restr fer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC ar draws y DU.

Eisoes ym mis Tachwedd mae cefnwr Cymru a'r Llewod wedi cael ei enwi ar restr fer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yng Nghymru, ac ar restr fer Chwaraewr Gorau'r Flwyddyn y corff sy'n rheoli rygbi'r byd, yr IRB.

Ar y diwrnod y cafodd ei ddewis i chwarae ym mhrawf ola'r hydref yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn, mae ei enw wedi ymddangos eto.

Daw'r holl enwebiadau mewn blwyddyn a welodd Halfpenny'n cipio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda Chymru cyn bod yn rhan allweddol o lwyddiant taith y Llewod i Awstralia.

Mae'n un o ddeg sydd wedi eu henwebu gan banel o arbenigwyr ar gyfer y wobr. Y gweddill yw Mo Farah, Christine Ohuruogu, Hannah Cockcroft (i gyd o fyd athletau), Andy Murray (tenis), Chris Froome (seiclo), Justin Rose (golff), Sir Ben Ainslie (hwylio), AP McCoy (rasio ceffylau) ac Ian Bell (criced).

Bydd modd pleidleisio naill ai dros y ffôn neu ar-lein yn ystod rhaglen arbennig ar deledu BBC ar ddydd Sul, Rhagfyr 15.