Digwyddiadau i nodi blwyddyn ers llifogydd yn Nyffryn Clwyd

  • 27 Tachwedd 2013
llifogydd Llanelwy
Llifogydd yn Llanelwy yn gorchuddio ffyrdd i mewn i'r ddinas

Flwyddyn i'r diwrnod ers i lifogydd mawr effeithio ar Ddyffryn Clwyd, mae digwyddiadau wedi eu cynnal yn Rhuthun ac yn Llanelwy.

Yn Llanelwy, bu gwasanaeth arbennig yng Nghadeirlan y ddinas am saith o'r gloch i gofio am y rhai gafodd eu heffeithio.

Cafwyd hyd i gorff Margaret Hughes, 91 oed, yn ei chartref yn y ddinas yn ystod y llifogydd. Clywodd cwest i'w marwolaeth ei bod hi wedi boddi. Yn ogystal, bu'n rhaid i gannoedd adael eu cartrefi wedi i'r Afon Elwy orlifo.

Roedd cynlluniau ar gyfer cynnau canhwyllau bychain a'u gosod yn yr afon, fore Mercher.

Am 6.15pm yn Rhuthun, bu trigolion Ystâd Glasdir yn ymuno i ddangos eu hundod a'u cefnogaeth i'w gilydd. Roedd yr ystâd yn newydd sbon pan darodd y llifogydd y llynedd, ac amryw yn y broses o symud yno am y tro cyntaf. Cafodd 122 o gartrefi eu heffeithio.

Yn hwyrach, roedd digwyddiad i 'oleuo'r ystâd'. Fe fyddan nhw'n cynnau'r goleuadau yn yr holl gartrefi, flwyddyn union wedi i'r ystâd fod heb bŵer.

Glasdir
Cafodd 122 o gartrefi eu heffeithio ar Ystâd Glasdir

Parhau i atgyweirio

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud eu bod nhw'n "parhau i ymdrechu i gefnogi'r sawl fu'n dioddef, yn atgyweirio'r difrod a gwella amddiffynfeydd llifogydd i bobl yn yr ardal.

"Ac er na fydd y rhai a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd byth yn anghofio'r gofid a'r aflonyddwch, yn bendant nid ydyn nhw'n angof".

Mae'r gwaith sydd eisoes ar droed yn cynnwys:

  • Cynllun llifogydd cymunedol ar Ystâd Glasdir yn Rhuthun;
  • Rhaglen wyth mis o waredu coed, llwyni a malurion ar ran pedair milltir o Afon Elwy i gynyddu llif y dŵr pan fydd bygythiad o lifogydd;
  • Giatiau llifogydd unigol i 22 o gartrefi ym mhentref Llanfair Talhaearn.

Yn ôl adroddiad gan Gyngor Sir Ddinbych gyhoeddwyd ym mis Medi, mae angen gwario £250,000 ar amddiffyn Ystâd Glasdir rhag llifogydd yn y dyfodol.

Sefydlwyd Grŵp Partneriaeth Llifogydd Llanelwy ers y difrod y llynedd. Mae'r grŵp yn cynnwys aelodau o Gyngor Sir Ddinbych, Cyfoeth Naturiol Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Tân ac Achub Gogledd Cymru, cynghorwyr sir, cynghorwyr dinas, Dŵr Cymru a chynrychiolwyr o'r gymuned.

Mae cadeirydd y grŵp, John Roberts, maer Llanelwy, yn dweud bod y grŵp "yn beirianwaith pwysig iawn, sy'n cysylltu'r gymuned gyda'r holl asiantaethau ac mae'n derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith a wnaed hyd yn hyn ac ar y gwaith y bwriedir ei wneud yn y tymor hirach".

Trwy'r Grŵp Partneriaeth, gall trigolion gafodd eu heffeithio "gyflwyno'u profiadau ac amlygu unrhyw broblemau a bydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n eu hystyried wrth gynllunio mesurau amddiffyn llifogydd tymor hir a thymor byr".