Cuthbert yn ôl

  • 26 Tachwedd 2013
Alex Cuthbert Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Cuthbert wedi sgorio naw cais yn ei 18 gêm i Gymru

Mae Alex Cuthbert yn un o wyth newid yn nhîm Cymru i wynebu Awstralia yng ngêm olaf cyfres yr Hydref ddydd Sadwrn.

Roedd disgwyl i'r asgellwr fethu'r gyfres i gyd oherwydd anaf i'w ffêr ond mae wedi gwella'n gynt na'r disgwyl.

Dan Biggar fydd y maswr tra bod Scott Williams yng nghanol y cae.

Sam Warburton fydd yn gapten wrth iddo ddychwelyd i'r rheng ôl tra bod Ian Evans hefo'i gyd-chwaraewr i'r Gweilch Alun Wyn Jones yn yr ail reng.

Hwb

Cafodd Cuthbert ei anafu pan drechodd y Gleision Toulon yn y Cwpan Heineken fis diwethaf.

Nid yw wedi chwarae yn unrhyw un o gemau'r Hydref hyd yn hyn ond bydd yn dechrau wrth ochr Leigh Halfpenny a George North ar gyfer y gêm brynhawn Sadwrn.

Mae Cuthbert wedi sgorio naw cais yn ei 18 gêm i Gymru a bydd yn hwb i dîm Warren Gatland yn erbyn Awstralia.

Mae'r hyfforddwr wedi gorfod delio hefo nifer o anafiadau yn ystod y gyfres, yn enwedig yn safle'r canolwr, ond mae Scott Williams wedi gwella o anaf i'w droed i lenwi bwlch yng nghanol y cae.

Canolwr ifanc y Gleision, Owen Williams, sgoriodd yn ei gêm gyntaf i Gymru yn erbyn Tonga yr wythnos diwethaf, fydd yn dechrau gyda Williams.

Mae Gethin Jenkins a Richard Hibbard yn dychwelyd i'r tîm gyda Rhodri Jones yn y rheng flaen a'r prop ifanc yn dechrau ei drydedd gêm yn olynol oherwydd anaf Adam Jones.

Bydd Dan Lydiate yn cymryd lle Justin Tipuric fel blaenasgellwr a Sam Warburton a Toby Faletau hefyd yn y rheng ôl.

'Gêm gorfforol'

"Mae'n wych cael Alex a Scott yn ôl oherwydd eu bod nhw'n dod â phrofiad i'r llinell ôl," meddai Warren Gatland.

"Mae Alex a'r timau meddygol wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau ei fod yn barod am y penwythnos ac mae'n wych cael ei gynnwys yn y tîm.

"Roedden ni'n meddwl bod Owen (Williams) wedi perfformio yn dda iawn yn y canol yn erbyn Tonga felly mae'n cael cyfle arall ddydd Sadwrn.

"Mae llawer iawn o brofiad yn y pac ar gyfer gêm gorfforol dros ben.

"Rydym yn gobeithio gorffen y gyfres yn gryf. Mae'r tair gêm ddiwethaf yn erbyn Awstralia wedi bod yn agos iawn a dydw i ddim yn disgwyl dim byd gwahanol y penwythnos yma."

Cymru v Awstralia: Dydd Sadwrn, Tachwedd 30, 17:00

Tîm Cymru:

Leigh Halfpenny (Gleision), Alex Cuthbert (Gleision), Owen Williams (Gleision), Scott Williams (Scarlets), George North (Northampton Saints), Dan Biggar (Gweilch), Mike Phillips (heb glwb); Gethin Jenkins (Gleision), Richard Hibbard (Gweilch), Rhodri Jones (Scarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), Ian Evans (Gweilch), Dan Lydiate (Racing Metro), Sam Warburton (Gleision, Capten), Toby Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Ryan Bevington (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Ryan Jones (Gweilch), Justin Tipuric (Gweilch), Rhodri Williams (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets), Liam Williams (Scarlets).

Straeon perthnasol