Llwybr wedi dod â £32m i'r economi

  • 26 Tachwedd 2013
Llwybr arfordir Cymru
Image caption Roedd pob grwp o ymwelwyr yn gwario £21.05 ar gyfartaledd mewn trefi a phentrefi ar yr arfordir

Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi denu bron dair miliwn o ymwelwyr i Gymru gan ddod â £32 miliwn i'r economi, yn ôl dau arolwg a gyhoeddir ddydd Mawrth.

Cynhaliwyd yr arolygon - yr 'Arolwg Ymwelwyr' a'r 'Arolwg Buddion Busnes' - gan gwmni Beaufort Research ac Ysgol Fusnes Caerdydd.

Mae'r ffigyrau'n dangos cynnydd bach yn nifer yr ymwelwyr i'r llwybr na gafwyd dros y flwyddyn flaenorol, ond cynnydd anferth yn y budd ariannol.

Dangosodd arolwg ym mis Ionawr eleni mai £16m o fudd ddaeth i'r economi o'r llwybr yn ystod y misoedd cyntaf wedi iddo agor.

Mae'r ddau arolwg newydd yn dangos bod pobl a theuluoedd sy'n ymweld â'r Llwybr wedi rhoi hwb o £32.3 miliwn i drefi a phentrefi a hyd y llwybr rhwng Hydref 2012 a Medi 2013.

Fe wariwyd £21.05 am bob grŵp ymweld (heb gynnwys llety). Y lleoedd mwyaf cyffredin i aros (41%) oedd mewn meysydd pebyll neu garafannau gyda'r gost ar gyfartaledd yn £57.20.

Buddsoddiad pellach

Roedd y Gweinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon, John Griffiths, wrth ei fodd gan ddweud:

"Mae'r Llwybr nid yn unig wedi helpu i godi proffil rhyngwladol Cymru, ond hefyd wedi tyfu economi Cymru a denu ymwelwyr newydd ar arian twristiaid i'n pentrefi a threfi ar yr arfordir.

"Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau i'r Llwybr fel bod profiad yr ymwelwyr yn dda, a bod pobl, cymunedau a busnesau lleol yn elwa o fod yn gysylltiedig ag ef."

Cafodd Llwybr Arfordirol Cymru ei agor yn swyddogol ym Mai 2012, a hwn yw'r llwybr di-dor cyntaf yn y byd i redeg ar hyd arfordir cyfan unrhyw wlad.

Ers i'r cynllun gael ei sefydlu yn 2007, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £10.5 miliwn ar ei gyfer ac fe ddaeth £3.9m o arian Ewrop. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi buddsoddiad pellach o £1.15m yn 2013/14 a 2014/15.

Pan ddaw'r cynllun buddsoddi i ben yn 2015, bydd Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn llunio cynllun i ddweud sut y bydd y llwybr yn cael ei reoli i'r dyfodol.