Gwrthdrawiad 'difrifol' yng Nghorris

  • 25 Tachwedd 2013

Mae dynes wedi cael ei chludo i Ysbyty Gwynedd mewn hofrennydd oherwydd gwrthdrawiad rhwng car a lori yn ardal Corris.

Yn ôl yr heddlu, roedd hi a dyn arall yn teithio mewn Suzuki pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ym mhentref Pantperthog am 2:51yh.

Dyw bywyd y ddynes ddim mewn perygl.

Cafodd yr A487 ei chau am gyfnod.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.