Rheolau budd-dal: "Cwbl annealladwy"

Punnoedd
Image caption Mae angen pleidleisio er mwyn sicrhau bod tua 330,000 o aelwydydd tlotaf Cymru yn derbyn ad-daliad rhannol neu lawn o'u treth gyngor o fis Ebrill 2014 ymlaen.

Bydd ACau'n pleidleisio ar reoliadau newydd budd-dal y dreth gyngor sydd, yn ôl pwyllgor trawsbleidiol, yn "gwbl annealladwy" ac yn amhosib' i'w gweithredu yn gywir.

Yn ôl pwyllgor materion cyfansoddiadol a deddfwriaethol y Cynulliad, mae'n amhosib i gyfreithwyr arbenigol hyd yn oed ddeall o'r rheoliadau beth yw bwriad y polisi.

Mae angen i ACau bleidleisio ar y rheoliadau er mwyn sicrhau bod tua 330,000 o aelwydydd tlotaf Cymru yn derbyn ad-daliad rhannol neu lawn o'u treth gyngor o fis Ebrill 2014 ymlaen.

Dywed y pwyllgor eu bod wedi eu synnu gan gyfeiriad yn y rheoliadau i ganlyniadau ffrwydrad llosgfynydd ym Montserrat, ynys ym Môr y Caribî, yn y 1990au.

'Dyn a ŵyr'

"Dyn a ŵyr," medd yr adroddiad pa berthynas sydd gan hynny â threth gyngor yng Nghymru yn 2013.

Yn yr adroddiad i ACau cyn y bleidlais ar lawr y Senedd dywed y pwyllgor: "Mae'r rheoliadau, ar y cyfan, yn gwbl annealladwy.

"... Mae'n amhosibl - hyd yn oed i gyfreithwyr â chefndir helaeth mewn dehongli rheoliadau statudol - deall o'r rheoliadau beth yw bwriad y polisi.

"Nid oes modd i swyddogion awdurdodau lleol, a fydd yn gyfrifol am weithredu'r rheoliadau, fod yn gwbl sicr eu bod yn eu gweithredu'n briodol.

'Yn gymhleth'

"Bydd y sefyllfa'n waeth i aelodau o'r cyhoedd (a sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth sy'n eu cynghori) sydd am sicrhau eu bod yn cael y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt o dan y cynllun.

"Y rheswm am hyn yw bod y rheoliadau'n gymhleth drwyddynt draw."

Dywed y pwyllgor, sy'n cael ei gadeirio gan Ddirprwy Lywydd y Cynulliad David Melding, fod y rheiny sy'n ceisio dehongli'r rheoliadau yn cael eu hanfon "ar drywydd sgwarnog" wrth chwilio am ddiffiniadau.

"Dyn a ŵyr pa berthynas sydd gan 'berson ym Mhrydain Fawr sydd wedi gadael tiriogaeth Montserrat ar ôl Tachwedd 1 1995 oherwydd effaith echdoriad folcanig ar y diriogaeth honno' â threth gyngor yng Nghymru yn 2013.

'I'r gwrthwyneb'

"Mae Llywodraeth Cymru yn briodol ddigon o blaid deddfwriaeth hygyrch. Mae'r rheoliadau hyn yn esiampl i'r gwrthwyneb."

Ond yn ei hymateb i'r pwyllgor dywed y Gweinidog Llywodraeth Leol, Lesley Griffiths, sy'n gyfrifol am lywio'r rheoliadau drwy'r Cynulliad, ei bod hi wedi ei "siomi" gan sawl agwedd ar yr adroddiad.

"Mae'n siomedig nad oedd y pwyllgor wedi gallu derbyn fy nghynnig o sesiwn briffio technegol i gynorthwyo'r broses graffu, yn enwedig yng ngoleuni'r sylwadau ynghylch astrusrwydd y rheoliadau.

"Roedd sefydlu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn golygu disodli system gymhleth, a oedd yn ddibynnol ar brawf modd, ac oedd wedi ei datblygu dros gyfnod o 20 mlynedd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

"Mae'r manylion yn y rheoliadau o reidrwydd yn adlewyrchu'r ystod enfawr o amgylchiadau aelwydydd sy'n rhaid eu cymryd i ystyriaeth wrth lunio unrhyw system sy'n ddibynnol ar brawf modd."

Angenrheidiol

Ychwanegodd fod y cyfeiriadau at Montserrat a Zimbabwe, er enghraifft, yn angenrheidiol er mwyn diffinio yn union pwy sy'n gymwys ac ym mha amgylchiadau.

Cafodd y cyfrifoldeb am y cynllun budd-dal treth gyngor ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru o fis Ebrill 2013 ymlaen.

Roedd y rheoliadau ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol yn destun ffrae wleidyddol chwerw a olygodd fod yn rhaid galw ACau yn ôl o'u gwyliau Nadolig er mwyn pledleisio.

Straeon perthnasol