Brown wedi gwrthod arglwyddiaeth i Wigley?

  • 26 Tachwedd 2013
Arglwydd Wigley
Image caption Cymerodd Dafydd Wigley ei sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi yn Ionawr 2011

Mae cyn Lywydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Wigley, yn awgrymu bod Gordon Brown pan oedd yn Brif Weinidog wedi rhwystro cytundeb i sicrhau tair sedd i Blaid Cymru yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Roedd hyn, yn ôl yr Arglwydd Wigley, yn golygu ei fod yntau a'r ddau arall oedd wedi eu henwebu gan Blaid Cymru yn 2008, mewn "sefyllfa annioddefol".

Daw'r honiad yng nghyfrol ddiweddaraf ei hunangofiant, 'Be nesa!' sy'n cael ei chyhoeddi ddydd Mercher.

Doedd Swyddfa Gordon Brown ddim am wneud sylw.

Ym 2007 newidiodd polisi Plaid Cymru ar Dŷ'r Arglwyddi, a hynny, yn ôl yr Arglwydd Wigley, wedi i brif chwip Llafur ar y pryd, Geoff Hoon, roi sicrwydd bod "pob posibilrwydd, pe bai Plaid Cymru yn cyflwyno tri enw i'r Prif Weinidog, y bydden nhw'n cael eu penodi."

Penderfynodd y blaid enwebu aelodau ar gyfer eu dyrchafu i'r Ail Siambr fel cynrychiolwyr swyddogol cyntaf Plaid Cymru yno.

'Negyddol'

Dewiswyd Dafydd Wigley, Eurfyl ap Gwilym a Janet Davies wedi pleidlais yng Nghyngor Cenedlaethol Plaid Cymru yn Ionawr 2008.

Yn ôl yr Arglwydd Wigley, cyflwynodd Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd, yr enwau i'r Prif Weinidog, ac roedden nhw'n disgwyl cael eu dyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi erbyn Pasg y flwyddyn honno.

"Ond nid felly y bu. Heb yn wybod i ni ein tri, a heb i neb o Lywodraeth Lafur San Steffan awgrymu bod unrhyw anhawster, daeth yn amlwg fod agwedd Gordon Brown yn negyddol iawn."

Yn y gyfrol dywed fod Mr Hoon wedi dweud wrth Elfyn Llwyd fod y mater yn nwylo'r Prif Weinidog, a'i fod yn deall i olynydd Mr Hoon fel prif chwip Llafur, Nick Brown, gael ei "synnu a'i siomi gan agwedd grintachlyd y Prif Weinidog."

Roedd y sefyllfa, meddai'r Arglwydd Wigley, yn "annioddefol" iddo fe a'r ddau arall a oedd wedi eu henwebu gan eu bod yn y cyfnod hwn wedi gwrthod gwahoddiadau i ymgymryd â dyletswyddau eraill er mwyn bod yn rhydd i fynd i San Steffan.

Ysgrifennodd Dafydd Wigley at Mr Brown i holi beth oedd y sefyllfa. Fisoedd yn ddiweddarach derbyniodd "lythyr pitw gan swyddog yn Rhif 10 yn cydnabod derbyn y llythyr: cydnabyddiaeth foel a disylwedd."

'Gelyniaethus'

Cafodd ddeall gan y Democrat Rhyddfrydol yr Arglwydd Livsey o Dalgarth "bod Gordon Brown yn llwyr elyniaethus i benodi unrhyw genedlaetholwr i Dŷ'r Arglwyddi" a chan aelodau o'r Blaid Lafur "fod rhai ohonyn nhwythau wedi holi Gordon Brown am hyn, ac wedi dod i'r un casgliad - er syndod ac embaras iddyn nhw.

Yn 2009 wrth ymateb i feirniadaeth gan Blaid Cymru o'r "oedi" wrth benodi aelodau Plaid Cymru i Dŷ'r Arglwyddi, dywedodd Swyddfa'r Cabinet nad oedd y blaid wedi dilyn y drefn gywir.

Bryd hynny, dywedodd Swyddfa'r Cabinet: "Ni ofynnwyd am eu henwebiadau.

"Y drefn yw bod y Prif Weinidog o bryd i'w gilydd yn gwneud apwyntiadau i Dŷ'r Arglwyddi drwy wahodd enwebiadau arweinwyr y pleidiau."

Ym mis Medi 2009, tynnodd Dafydd Wigley ei enwebiad yn ôl er mwyn canolbwyntio ar ymgyrchu.

Daeth tro ar fyd wedi etholiad cyffredinol Mai 2010 pan ddaeth David Cameron yn Brif Weinidog.

Dywed Dafydd Wigley fod y trafodaethau ynghylch y posibilrwydd i Blaid Cymru "gael ei hystyried o'r newydd" wedi ailagor.

O ganlyniad i'r rhain, cytunodd i gael ei enwebu.

Yn Nhachwedd 2010 cyhoeddwyd y byddai'n cael ei ddyrchafu'n Arglwydd.

Cymrodd Dafydd Wigley ei sedd yn Nhy'r Arglwyddi yn Ionawr 2011.