Llofruddiaeth Tenerife: Ymchwiliad i ofal claf yng Nghymru

  • 25 Tachwedd 2013
Deyan Deyanov (dde) yn y llys yn Tenerife
Cafodd Deyan Deyanov (dde) ei ddedfrydu i 20 mlynedd dan glo mewn uned seiciatryddol ym mis Chwefror

Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i sut y cafodd claf oedd â sgitsoffrenia paranoiaidd ei ryddhau o ysbyty yng Nghymru, cyn iddo lofruddio dynes o Brydain ar ynys Tenerife.

Cafodd pen Jennifer Mills-Westley, nain 60 oed, ei dorri gan Deyan Deyanov, 29, wedi ymosodiad mewn siop yn Los Cristianos ar yr ynys yn 2011.

Fisoedd ynghynt, roedd Deyanov, sy'n hannu o Fwlgaria, wedi cael triniaeth mewn uned seiciatryddol yn Ysbyty Glan Clwyd.

Daw ymchwiliad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi i deulu Mrs Mills-Westley honni fod yna fethiannau wedi bod yn y gofal dderbyniodd y llofrudd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cynnal adolygiad mewnol ac yn dweud bod gwersi wedi cael eu dysgu.

Ond maent yn dweud y byddan nhw hefyd yn cydweithio'n llawn gyda'r ymchwiliad diweddara'.

20 mlynedd o garchar

Roedd Jennifer Mills-Westley wedi symud i Tenerife ar ôl ymddeol

Bu farw Mrs Mills-Westley, a oedd wedi symud i Tenerife ar ôl ymddeol, ar ôl i Deyanov ymosod arni mewn archfarchnad Chineaidd yn Los Cristianos ym mis Mai 2011.

Fis Chwefror eleni, cafodd Deyanov ei ddedfrydu i 20 mlynedd dan glo mewn uned ddiogel yn Sbaen.

Clywodd yr achos llys fod y dyn digartref, a oedd yn defnyddio cyffuriau, wedi cael triniaeth mewn ysbytai yng ngogledd Cymru a Sbaen.

Roedd Deyanov, a oedd yn ymweld â theulu yn Y Fflint, wedi cael triniaeth yn y ward seiciatryddol yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, ond cafodd ei ryddhau saith mis cyn y llofruddiaeth.

Mae merched Mrs Mills-Westley wedi bod yn galw am ymchwiliad swyddogol i'r hyn aeth o'i le gyda gofal Deyanov.

Maen nhw wedi croesawu'r ymchwiliad newydd.

Yn ôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, fe fyddan nhw'n cychwyn yr ymchwiliad "yn y dyfodol agos" a bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi i bawb eu gweld.