RhAG: Twf addysg Gymraeg yn 'rhy araf'

  • 25 Tachwedd 2013
Dosbarth
Image caption Mae RhAG yn dadlau bod y cynnydd o fewn y sector addysg Cymraeg yn 'rhy araf'

Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi galw ar Lywodraeth Cymru i osod targedau mwy penodol i awdurdodau lleol er mwyn cynyddu nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Yn ystod cynhadledd y mudiad yng Nghaerdydd dros y penwythnos, dywedodd aelodau fod y "cynnydd o ran ehangu'r sector cyfrwng Cymraeg yn llawer rhy araf".

Yn ôl RhAG, mae angen gwneud mwy i sicrhau bod modd cwrdd â thargedau strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae'r llywodraeth wedi cydnabod eu bod yn debygol o fethu targedau, ond mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw cynllunio'r ddarpariaeth addysg yn eu hardaloedd.

Targedau

Mae RhAG yn honni fod y strategaeth yn methu ar hyn o bryd o ran hwyluso darparu ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd.

Ychwanegon nhw fod yna "ddiffyg cyswllt rhwng strategaeth y llywodraeth ganolog a'r hyn sy'n digwydd yn lleol".

Roedd y gynhadledd yn cael ei chynnal ar safle newydd Ysgol Treganna yn y brifddinas, sydd ddim yn bell o ardal Grangetown.

Mae cryn ddadlau a phrotestio wedi bod yn yr ardaloedd hyn o Gaerdydd, fel mewn sawl ardal arall yng Nghymru dros y blynyddoedd, oherwydd pryderon am y ddarpariaeth addysg Gymraeg.

Meddai Lynne Davies, cadeirydd cenedlaethol RhAG:

"Nodwn fod rhai siroedd wedi bod yn rhagweithiol ond eraill yn parhau i lusgo traed. O ganlyniad mae'r cynnydd o ran ehangu'r sector cyfrwng Cymraeg yn llawer rhy araf.

"Mae'r bwlch yn parhau rhwng dyheadau'r Llywodraeth mewn perthynas ag addysg Gymraeg a'r cynnydd angenrheidiol i gyrraedd targedau'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed y bydd 25% o blant 7 oed yng Nghymru yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2015 a hwnnw'n cynnyddu i 30% erbyn 2020.

"Ar hyn o bryd mae'r Strategaeth yn methu o safbwynt hwyluso darparu ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd. Dylai Llywodraeth Cymru osod targedau penodol i awdurdodau lleol er mwyn ehangu nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg.

"Prin iawn yw'r gobaith o gyrraedd y nod os na fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi cyfarwyddiadau clir er mwyn sicrhau fod awdurdodau lleol yn gweithredu."

'Cyfrifoldeb awdurdodau'

Yn ymateb i sylwadau RhAG, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod eu bod yn anhebygol o gyrraedd targedau, ond dywedon nhw mai cyfrifoldeb awdurdodau unigol yw cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cynyddu ein cefnogaeth i addysg cyfrwng Cymraeg ac yr wythnos diwethaf cafodd ymgyrch i roi gwybodaeth i rieni ei lansio.

"Er hynny, rydym wedi bod yn onest drwy ddweud nad ydym yn debygol o gyrraedd targedau uchelgeisiol gafodd eu gosod yn ein Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg.

"Bydd y rhain yn cael eu hail-asesu yn 2015 fel rhan o'r adolygiad o'r Cynllun Strategaeth a Gweithrediad.

"Yn gynharach eleni, cafodd y Ddeddf Safonau Ysgolion (Cymru) 2013 ei phasio, sy'n rhoi gofyn statudol ar awdurdodau lleol i baratoi Cynllun Strategaeth Cymraeg mewn Addysg.

"Dan rhai amodau penodol, bydd angen i rai awdurdodau fesur y gofyn gan rieni am addysg cyfrwng Cymraeg a dangos eu cynlluniau am sut i ymateb i hyn.

"Mae o i fyny i awdurdodau lleol yng Nghymru, nid Llywodraeth Cymru i gynllunio'r ddarpariaeth addysg yn eu hardaloedd."