Pro12: Buddugoliaeth i'r Scarlets ond y Gleision yn colli

Image copyright Inpho
Image caption Llongyfarch Gareth Davies wedi iddo sgorio trydydd cais y Scarlets yn Galway nos Sadwrn

Connacht 21-24 Scarlets

Sicrhaodd y Scarlets fuddugoliaeth yn eu gêm Pro12 yn Galway nos Sadwrn, er i Connacht fygwth taro'n ôl yn hwyr yn yr ail hanner.

Aeth y tîm cartre' ar y blaen o 6-0, gyda dwy gic gosb gan Craig Ronaldson, ond sicrhaodd cais Frazer Climo, ar ei ymddangosiad cynta' yn y Pro12, fod yr ymwelwyr yn arwain o 10-9 ar yr hanner.

Roedd y Scarlets yn rheoli'r gêm wedyn, wrth iddynt ymestyn eu mantais i 24-9.

Ond gyda cheisiau gan Matt Healy a Jason Harris-Wright roedd Connacht yn dynn ar eu sodlau wrth i'r gêm dynnu tua'i therfyn.

Cafodd Gareth Owen, o'r Scarlets, ei anfon i'r gell gosb cyn i amser fynd yn drech na'r tîm cartre', sy'n parhau ar waelod y tabl ar ôl colli saith allan o wyth gêm gynta'r tymor.

Gleision Caerdydd 10-31 Munster

Dringodd Munster yn ôl i frig tabl y Pro12 wedi buddugoliaeth gyfforddus dros Gleision Caerdydd ar Barc yr Arfau.

Y Gweilch oedd yn arwain y tabl am gyfnod ar ôl iddynt guro Zebre brynhawn Sadwrn.

Ond gyda phwynt bonws wedi'i sicrhau ddau funud mewn i'r ail hanner, roedd lle Munster ar y brig yn ddiogel.

Llwyddodd Kristian Dacey i sgorio un cais i'r Gleision.

Roedd y maswr Simon Humberstone wedi rhoi'r tîm cartre' ar y blaen yn y 13eg munud, ond chafodd o ddim cyfle i ychwanegu at y sgôr eto tan iddo drosi wedi cais Dacey ar ôl 50 munud. Ond erbyn hynny roedd Munster wedi croesi pedair gwaith.

Roedd buddugoliaeth yn edrych yn anochel i'r ymwelwyr, gan adael cyfarwyddwr rygbi'r Gleision Phil Davies yn rhwystredig gyda'r diffygion yn amddiffyn ei dîm.

Straeon perthnasol