Datblygu ardal ddinesig yn 'rhy araf'

Cardiff Bay
Mae'r cwmnïau gafodd eu holi yn bryderus nad yw'r cynlluniau'n symud ymlaen yn ddigon cyflym

Mae busnesau'n rhwystredig nad yw cynlluniau ar gyfer ardal ddinesig yn ne ddwyrain Cymru yn mynd yn eu blaen yn ddigon cyflym, medd adroddiad newydd.

Mae Fforwm Economaidd De Ddwyrain Cymru wedi cynnal arolwg ymysg 200 o gwmnïau, a chanfod eu bod ar y cyfan yn cefnogi'r cynlluniau, sydd â'r nod o hybu swyddi a buddsoddiad.

Ond maen nhw'n bryderus am effaith hirhoedlog y wasgfa economaidd.

Yn gynharach yr wythnos hon fe gafodd cadeirydd a bwrdd .

Mae'r ardal yn ymestyn dros 10 awdurdod lleol ac mae'r bwrdd - dan arweiniad Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis - yn cynnwys pedwar arweinydd cyngor a chynrychiolwyr o fyd busnes ac addysg.

'Rhy araf'

Mae ardal ddinesig arall yn cael ei sefydlu ym Mae Abertawe, ac fe gafodd ei lansio fel y gyntaf yng Nghymru ym mis Gorffennaf.

Mae honno'n cynnwys Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a rhannau o Bowys, o dan gadeiryddiaeth arweinydd Cyngor Abertawe David Phillips.

Y neges gan Fforwm Economaidd De Ddwyrain Cymru yw bod busnesau'r ardal yn croesawu'r datblygiad ar y cyfan, ond bod y cynlluniau'n symud yn "rhy araf" ac nad yw'r cynlluniau yn "ddigon mentrus".

Dywed yr adroddiad bod trafnidiaeth yn flaenoriaeth ymysg y busnesau, gyda chynlluniau ar gyfer rhwydwaith i gysylltu cymoedd y de a'r dinasoedd yn cael ei ystyried yn fuddsoddiad pwysig.

Roedd gwella'r M4 hefyd yn cael ei weld fel rhywbeth pwysig, ond roedd rhai busnesau bwyd yn meddwl y byddai hynny'n cael effaith andwyol ar eu busnesau tra bod eraill yn y sector ariannol yn ei weld fel cyswllt hanfodol gyda de ddwyrain Lloegr.

Roedd galw hefyd am fuddsoddi ym Maes Awyr Caerdydd fel ei fod yn cynnig mwy o deithiau i ystod ehangach o leoedd.

Un pryder mawr yn yr adroddiad yw'r bygythiad i gyflenwadau ynni a diogelwch y cyflenwad, ac fe ddaeth rhybudd y gallai hynny gael effaith fawr ar y de ddwyrain dros y 10 mlynedd nesaf.

Mae'r adroddiad yn argymell y dylid rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio adnoddau ynni naturiol, ac y dylid datblygu'r de ddwyrain fel canolfan ragoriaeth ar gyfer ynni gwyrdd a thechnoleg gysylltiedig.

Addysg

Roedd pryder hefyd bod lefelau isel o lythrennedd a rhifedd, a'r hyn gafodd ei ddisgrifio fel diffyg gallu i ddysgu ac addasu i fyd gwaith.

Daeth galwadau am fwy o ysbryd entrepreneuraidd, cysylltiadau digidol gwell a chydnabyddiaeth o bwysigrwydd cydweithio'n agos gyda phrifysgolion Cymru.

Ond yr hyn oedd amlycaf oedd y diffyg amynedd yn y gymuned fusnes.

Maen nhw am weld "strategaeth fentrus a chynhwysfawr", cynllun 10 mlynedd i fuddsoddi mewn pobl, trafnidiaeth a lleoedd ynghyd â chynllun addysg 10 mlynedd.