Ymateb i'r adolygiad addysg uwch

Myfyrwyr yn graddio
Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar hygyrchedd addysg uwch a chyllid myfyrwyr

Parhau mae'r ymateb i gyhoeddiad y Gweinidog Addysg Huw Lewis y bydd yn cynnal adolygiad o addysg uwch a chyllido myfyrwyr yng Nghymru.

Dywedodd Mr Lewis ddydd Llun mai bwriad yr adolygiad yw edrych ar gynyddu'r nifer sy'n derbyn addysg uwch a'r modd y mae'n cael ei ariannu.

Dywedodd y gweinidog ei fod o am weld "system addysg uwch lwyddiannus yng Nghymru, a chefnogaeth gan system gyllido gref, gynaliadwy."

Mae'r Ceidwadwyr wedi croesawu'r adolygiad, gan ddweud bod y polisi ariannu presennol yn anghynaladwy.

Mae'r economegydd yr Athro Ken Richards yn cytuno bod angen edrych o'r newydd ar bolisi Llywodraeth Cymru.

'Croesawu myfyrwyr'

Wrth wneud y cyhoeddiad ddydd Llun, dywedodd Mr Lewis ei fod am gynyddu mynediad i addysg uwch, yn seiliedig ar "allu unigolyn ac nid ar ei allu i dalu ffi".

Ar hyn o bryd mae'r llywodraeth yn talu unrhyw ffioedd ar ben y £3,400 cyntaf, sy'n cael ei dalu gan y myfyriwr.

Ond dywedodd y gweinidog bydd angen ail-ystyried y polisi yn y dyfodol.

Yn siarad ar Radio Wales, dywedodd Mr Lewis: "Rydym wedi ymrwymo i'r model presennol sy'n boblogaidd, yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy tan 2016, a bydd hynny'n digwydd tan o leiaf 2016.

"Mae addysg uwch yn wynebu newidiadau byd eang. Rydym yn gwybod bod niferoedd myfyrwyr yn parhau i gynyddu. Rydw i hefyd yn deall y mater o ehangu mynediad i addysg uwch.

"Dwi'n meddwl bod angen i ni ganolbwyntio ar y ffaith bod angen i ni ddenu pobl o fandiau incwm îs sydd ddim yn mynd i addysg uwch ar hyn o bryd, hyd yn oed os oes ganddyn nhw'r gallu a'r talent i wneud y mwyaf ohono.

"Yn sicr, mae angen system sydd yn fforddiadwy yn y tymor hir, yn sefydlog yn y tymor hir ac sy'n gwneud y gorau i fyfyrwyr Cymreig o le bynnag maent yn dod a pha gefndir sydd ganddyn nhw."

Oedi?

Mae disgwyl i'r adolygiad adrodd yn ôl erbyn hydref 2016, ar ôl yr etholiad Cynulliad.

Ond gwadu wnaeth y gweinidog ei fod yn oedi'r adroddiad fel nad oedd yn gorfod rhannu'r penderfyniad gydag etholwyr cyn iddyn nhw bleidleisio.

"Mae adolygiadau yn cynghori llywodraethau, nid eu cyfarwyddo nhw," meddai.

"Mae dipyn o amser tan yr etholiad nesaf, a rhwng nawr a hynny, hoffwn gael trafodaeth synhwyrol rhwng bob plaid yng Nghymru am sut y gallwn ni helpu ein pobl ifanc a sicrhau dyfodol sefydlog i addysg uwch."

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi codi cwestiynau am amserlen yr adolygiad.

Dywedodd eu llefarydd ar addysg, Aled Roberts AC: "Mae trefnu i'r adolygiad adrodd yn yr hydref yn 2016 yn golygu na fydd gan bobl Cymru unrhyw syniad o bolisi addysg uwch y blaid Lafur cyn yr etholiad Cynulliad.

"Mae hefyd cwestiynau difrifol am bryd fydd y polisi newydd yn cael ei weithredu. Gyda'r amserlen bresennol, mae'n edrych yn annhebygol y bydd cyn 2019. Nid yw hynny yn ddigon buan.

"Nid yw'r system bresennol yn fforddiadwy ac mae angen i ni weithredu yn gynt neu bydd ein prifysgolion yn dioddef."

'Croesawu'r adolygiad'

Dywedodd y Ceidwadwyr eu bod yn croesawu'r adolygiad i bolisi ffioedd y llywodraeth.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Rydw i yn croesawu'r adolygiad, ond hoffwn i'r gweinidog fod yn fwy eglur am yr hyn mae'n bwriadu ei wneud am weddill tymor y Cynulliad hwn.

"Nid yw'n bolisi fforddiadwy, nid yw'n ymestyn allan i rhai o'r bobl llai difreintiedig yn ein cymunedau gan gynyddu mynediad i brifysgolion.

"Yn y pendraw, mae llawer o'r arian, £50m, yn mynd allan o Gymru i sefydliadau addysg uwch dros weddill y DU."

Mae Plaid Cymru wedi croesawu cyhoeddiad Mr Lewis, gan ddweud ei fod yn gyfystyr a chyfaddef bod y polisi ffioedd addysg uwch yn "anghynaladwy".

Dywedodd eu llefarydd addysg, Simon Thomas: "Mae hwn yn gam positif. Mae Plaid Cymru wedi cwestiynu pa mor fforddiadwy yw'r system bresennol oherwydd ei fod yn dibynnu ar fyfyrwyr o wledydd eraill y DU yn astudio yma ers mwyn ei gynnal felly rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn ac yn cymryd camau i'w gywiro."

'Anochel'

Ar raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru fore Mawrth, dywedodd yr economegydd yr Athro Ken Richards bod angen edrych o'r newydd ar bolisi Llywodraeth Cymru.

"Roedd hyn yn anochel oherwydd mae'r polisi yma yn un costus iawn i Lywodraeth Cymru," meddai.

"Bydd yn costio dros biliwn o bunnau yn ystod oes y Cynulliad presennol.

"Rwy'n cytuno gyda Huw Lewis bod angen i bobl o gefndiroedd tlotach fynd i brifysgol, ond tybed ai'r polisi yma yw'r ffordd orau i gyflawni hynny?

"Mae'r cymhorthdal ar hyn o bryd yn mynd i aelwydydd cyfoethog a thlawd fel ei gilydd - dyw pobl ddim yn gorfod mynd i'w pocedi tan i'r myfyrwyr ddechrau ennill cyflogau da ar ôl graddio.

"Ond wrth gwrs byddai'n rhaid defnyddio'r arian mewn ffordd wahanol. Byddai angen buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar er mwyn cael pobl i aros yn yr ysgol i neud Lefel A a mynd i addysg uwch yn y lle cyntaf."

Syr Ian Diamond, is-ganghellor Prifysgol Aberdeen, fydd yn arwain yr adolygiad, fydd yn dechrau yn 2014.