Gweinidog yn cyhoeddi adolygiad o addysg uwch yng Nghymru

  • 18 Tachwedd 2013
Myfyrwyr yn graddio
Image caption Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar hygyrchedd addysg uwch a chyllid myfyrwyr

Mae Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Huw Lewis, wedi cyhoeddi y bydd adolygiad o addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru.

Bwriad yr adolygiad yw edrych ar gynyddu'r nifer sy'n derbyn addysg uwch a'r modd y mae'n cael ei ariannu.

Bydd yr adolygiad yn edrych ar bolisiau ffioedd dysgu, trefniadau cyllid myfyrwyr a pholisi ariannu addysg uwch dros y ffin a rôl y Cyngor Ariannu Addysg Uwch.

Dywedodd y gweinidog ei fod o am weld "system addysg uwch lwyddiannus yn Nghymru, a chefnogaeth gan system gyllido gref, gynaliadwy."

Mae'r Ceidwadwyr wedi honni mai ffordd o gael gwared ar y cymhorthdal i ffioedd dysgu myfyrwyr o Gymru yw'r adolygiad.

'System deg'

Meddai Huw Lewis: "Dydw i ddim yn fodlon bod mesurau i gynyddu'r nifer sy'n derbyn addysg uwch yn gynhwysol, nac yn ddigon eang.

"Rwy'n credu y dylen ni fod yn edrych, mewn ffordd gynaliadwy, adeiladol a phenderfynol, ar berthynas prifysgolion a'u cymunedau, i groesawu myfyrwyr na fyddai wedi meddwl mynychu sefydliad addysg uwch.

"Rydym ni'n credu fod gennym ni'r system gyllid myfyrwr decaf erioed yng Nghymru. Yn ein barn ni, dylai mynediad i addysg uwch ddeillio o allu unigolyn i lwyddo, nid ar ei allu i dalu ffi."

Ar hyn o bryd mae'r llywodraeth yn talu unrhyw ffioedd ar ben y £3,400 cyntaf, sy'n cael ei dalu gan y myfyriwr.

Ond dywedodd y gweinidog bydd angen ail-ystyried y polisi yn y dyfodol.

"Mae'n polisi ffioedd dysgu yn boblogaidd, fforddiadwy a chynaliadwy, ond mae'n bryd i ni ystyried y dyfodol, a ninnau'n wynebu newidiadau cyflym, anrhagweladwy i'r sector.

"Mae gan addysg uwch Cymreig hanes llewyrchus, ond mae her o'n blaenau. Rwyf wedi amlinellu fy ngweledigaeth. Rwyf am i Lywodraeth Cymru weithio gyda sefydliadau i droi'r weledigaeth yn realiti."

Syr Ian Diamond, is-ganghellor Prifysgol Aberdeen, fydd yn arwain yr adolygiad, fydd yn dechrau yn 2014.

'Wedi methu'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg, Angela Burns AC, bod yr adolygiad yn ffordd o gael gwared ar y cymhorthdal i fyfyrwyr.

"Mae cymhorthdal ffioedd dysgu'r Blaid Lafur wedi gyrru degau o filiynau o gyllid Llywodraeth Cymru i brifysgolion y tu allan i Gymru ar adeg pan ddylai prifysgolion Cymreig fod yn anelu at gystadlu gyda'r gorau yn y byd."

Dywedodd Ms Burns fod y polisi wedi cadw arian gan brifysgolion Cymreig, a'u rhoi dan bwysau ariannol.

"Mae ffigyrau yn dangos bod y cymhorthdal wedi methu a chynyddu mynediad i addysg uwch i bobl ifanc o gymunedau difreintiedig felly mae'n amser i ystyried ffyrdd eraill i fuddsoddi mewn addysg uwch.

"Os ydym am i brifysgolion Cymru gystadlu gyda'r goreuon yn y DU ac ymhellach, mae'n rhaid iddyn nhw gael yr adnoddau cywir ac ni all cyllid addysg uwch gael ei roi i lefydd eraill i wneud pwynt gwleidyddol.

"Mae'r adolygiad nawr wedi gosod targed clir i greu cynllun i wella mynediad i addysg uwch i bawb, paratoi myfyrwyr i fyd gwaith a rhoi'r adnoddau i brifysgolion Cymreig gystadlu hefo sefydliadau dros y DU a dramor."

'Colli adnoddau'

Mae Plaid Cymru wedi croesawu cyhoeddiad Mr Lewis, gan ddweud ei fod yn gyfystyr a chyfaddef bod y polisi ffioedd addysg uwch yn "anghynaladwy".

Dywedodd eu llefarydd addysg, Simon Thomas: "Mae hwn yn gam positif. Mae Plaid Cymru wedi cwestiynu pa mor fforddiadwy yw'r system bresennol oherwydd ei fod yn dibynnu ar fyfyrwyr o wledydd eraill y DU yn astudio yma ers mwyn ei gynnal felly rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn ac yn cymryd camau i'w gywiro.

"Mae'r polisi presennol yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn sybsideiddio myfyrwyr i astudio yn lle bynnag maen nhw eisiau o fewn y DU, i bob pwrpas, gan symud arian o brifysgolion Cymreig.

"Golygai hyn fod y prifysgolion Cymreig yn colli adnoddau gwerthfawr tra mae prifysgolion eraill yn y DU yn cael eu sybsideiddio gan Lywodraeth Cymru.

"Mae'n iawn bod hyn yn gorffen."

Straeon perthnasol