Carwyn Jones yn 'ail adrodd hen bolisïau' iaith

  • 14 Tachwedd 2013
Dyfodol
Mae cadeirydd Dyfodol Heini Gruffudd (chwith) yn dweud bod angen i'r llywodraeth gael polïsiau mwy radical i gynyddu'r nifer sydd yn siarad y Gymraeg

"Ail adrodd hen bolisïau'r llywodraeth" y mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud wrth ymateb i gasgliadau adroddiad a oedd yn edrych ar ddyfodol y Gymraeg yn ôl y mudiad Dyfodol i'r Iaith.

Maen nhw'n honni bod nifer o'r camau oedd yn natganiad Carwyn Jones yn bethau mae'r llywodraeth wedi cychwyn gwneud yn barod fel y canllaw i gefnogi'r nodyn cynllunio TAN 20.

Mae Dyfodol i'r Iaith wedi ysgrifennu at Carwyn Jones er mwyn cael eglurhad am y datganiad.

Ddydd Mawrth fe ddywedodd y Prif Weinidog y bydd ap a gwefan newydd i hyrwyddo digwyddiadau Cymraeg yn cael eu sefydlu. Roedd yn gwneud y datganiad ar ôl i gasgliadau'r ymgynghoriad a oedd yn ystyried dyfodol yr iaith gael eu cyhoeddi.

Mi ddigwyddodd yr ymgynghoriad am fod ffigyrau diweddaraf y cyfrifiad wedi dangos bod 'na gwymp wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Ar ddiwedd yr ymgynghoriad cafodd digwyddiad Y Gynhadledd Fawr ei gynnal yn Aberystwyth.

Anwybyddu'r casgliadau

Prif bwyntiau'r adroddiad hwnnw oedd mai mewnlifiad ac all-lifiad ydy'r prif heriau sydd yn wynebu'r iaith a bod angen ystyried y Gymraeg o safbwynt yr economi.

Yn ôl Cadeirydd Dyfodol i'r Iaith, Heini Gruffudd, mae Carwyn Jones wedi anwybyddu prif gasgliadau'r ddogfen:

"Y brif her i'r Gymraeg yn ôl y Gynhadledd yw symud poblogaeth, a bod angen polisïau economaidd, polisïau tai a chynllunio, polisïau addysg a pholisïau datblygu cymunedol i ymateb i'r her.

"Mae'n ymddangos bod datganiad y Prif Weinidog yn ymwneud mwy â cheisio rhoi gwedd gyhoeddus gadarnhaol na symud pethau ymlaen.

"Dydyn ni ddim am ddadlau â'r camau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cyhoeddi ond rhaid dweud ein bod wedi'n siomi mai hen ddatganiadau wedi'u hailwampio yw llawer o'r hyn sydd ganddo."

Ymateb

Mae'n dweud bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu polisïau mwy radical ac eang er mwyn ceisio cynyddu'r nifer sydd yn siarad yr iaith.

Wrth ymateb mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai "dim ond camau cychwynnol" oedd yr hyn gafodd ei ddweud yn y datganiad ac y bydd manylion pellach yn y gwanwyn:

"Rydym wedi ymrwymo i gynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn ein cymunedau a gweithleoedd, ond nid yw gweithredu gan y Llywodraeth yn ddigon.

"Rhaid i unigolion a chymunedau hefyd cymryd cyfrifoldeb drwy ddefnyddio'r iaith bob dydd i sicrhau ei bod yn parhau i ffynnu."