Trosglwyddo pwerau bwrdd cythryblus

Image copyright Other
Image caption Mae'r bwrdd yn rheoli'r system ddraenio ar Wastadeddau Gwent

Bydd swyddogaethau bwrdd allai fod wedi "peryglu bywydau" oherwydd y ffordd roedd yn cael ei redeg yn cael eu trosglwyddo i Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae gan Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg gyllideb flynyddol o dros £1 miliwn ac mae'n gyfrifol am reoli draenio ar wastadeddau Gwent rhwng Cas-gwent a Chaerdydd.

Fe wnaeth adroddiadau gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Swyddfa Archwilio Cymru ddarganfod nifer o ffaeleddau yn y ffordd roedd y bwrdd yn cael ei redeg.

Y nod yw cyflawni'r trosglwyddiad erbyn Ebrill 2015.

Tripiau dramor

Daeth y bwrdd i amlygrwydd wedi i Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) gynnal ymchwiliad iddo wedi i aelodau o'r bwrdd godi pryderon am faterion ariannol.

Yn yr adroddiad - gafodd ei ryddhau yn Hydref 2012 - roedd manylion ynglŷn â sut roedd aelodau o'r bwrdd wedi bod ar deithiau i Fenis, yr Eidal, Gogledd Iwerddon a'r Iseldiroedd heb achos busnes oedd yn eu cyfiawnhau.

Yn ogystal fe wnaeth cyn glerc y bwrdd gyfrannu at gynyddu ei gyflog ei hun o £55,228 i £83,112 rhwng 2006 a 2010.

Barn SAC oedd nad oedd gan y corff gyfansoddiad na rheolau llywodraethu oedd yn addas at eu pwrpas.

'Peryglu bywydau'

Disgrifiodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Darren Millar y bwrdd fel "enghraifft berffaith o sut i beidio â rheoli sefydliad sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus".

Dywedodd hefyd nad oedd y bwrdd yn monitro a datblygu gweithredu cynllun rheoli risg llifogydd ar Wastadeddau Gwent, ac y "gallai hynny fod â'r potensial i beryglu bywydau ac eiddo miloedd o bobl".

Yn ôl Llywodraeth Cymru y rheswm am y trosglwyddiad yw i "integreiddio" y ffordd mae adnoddau'n cael eu rheoli yn ogystal â darparu gwerth am arian.

Ychwanegodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol Alun Davies: "Bydd hefyd yn sicrhau ateb tymor hir i lawer o'r problemau wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus eu codi mewn cysylltiad â Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg."

Dywedodd prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru Emyr Roberts: "Mae rheoli'r ardaloedd yma'n bwysig o ran gostwng y risg o lifogydd i bobl ac eiddo, gan eu bod yn cynnwys tir amaethyddol gwerthfawr a chynefin da ar gyfer bywyd gwyllt.

"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau y bydd y trosglwyddiad o gyfrifoldebau mor hawdd â phosib."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.