Heddlu yn ymchwilio ar ôl canfod corff

Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio ar ôl i gorff dyn 33 oed gael ei ganfod mewn nant yn Rhoscefnhir, ger Pentraeth yn Ynys Môn.

Dywed yr heddlu i'r corff gael ei ddarganfod ddydd Sul.

Roedd y dyn yn byw yn ardal Pentraeth.

Dyw'r Heddlu heb gyhoeddi enw'r dyn eto ond mae ei deulu wedi cael gwybod.

Bydd archwiliad post morten yn cael ei gynnal yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.