Siom i Gymru yng Nghaerdydd

Bryan Habana Image copyright PA
Image caption Bryan Habana dorrodd drwy'r amddiffyn i greu cais cyntaf y Springboks

Mae De Affrica wedi curo Cymru mewn gem gyffrous yn Stadiwm y Mileniwm.

Daeth ceisiau i'r Springboks gan Jean de Villiers a Bismarck du Plessis yn yr hanner cyntaf, gyda Leigh Halfpenny yn cadw Cymru yn yr ornest hefo'i droed dde.

Roedd Cymru wedi dioddef nifer o anafiadau gyda'r llewod Jonathan Davies ac Adam Jones ynghyd a Liam Williams yn gorfod gadael y cae yn yr hanner cyntaf.

Roedd cyfleoedd i Gymru a chawson nhw lawer o'r meddiant, ond doedden nhw methu a manteisio a daeth cais gan Fourie du Preez yn yr ail hanner i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Dechrau cyflym

Dechreuodd Cymru yn gyflym gyda Jonathan Davies yn torri drwy amddiffyn De Affrica i ennill cic gosb gafodd ei drosi gan Leigh Halfpenny am dri phwynt.

Ond daeth De Affrica yn ôl yn syth drwy Morne Steyn.

Cyrhaeddodd Halfpenny y nod o 300 pwynt i'w wlad gyda chic arall ond rhwygodd rhediad gan Bryan Habana yn syth drwy amddiffyn Cymru yn fuan wedyn.

Aeth heibio Richard Hibbard yn hawdd cyn pasio'r bêl i Du Plessis ac yna'r capten Jean de Villiers, aeth dros y linell i sgorio cais cyntaf y Springboks.

Image copyright Getty Images
Image caption Jean de Villiers aeth dros y linell yn yr hanner cyntaf

Daeth ergyd bellach i Gymru wrth i Jonathan Davies a Liam Williams orfod gadael y cae gydag anafiadau wedi llai na 15 munud o chwarae.

James Hook ac Ashley Beck ddaeth i'r cae yn eu lle, ond sgoriodd Bismarck du Plessis yn fuan wedyn o'r lein i roi'r ymwelwyr ar y blaen o 6 - 17.

Daeth yr hanner i ben gyda Francois Louw yn cael cerdyn melyn am ffrwgwd gyda Richard Hibbard, a llwyddodd Halfpenny i gicio dau ergyd arall i gadw'r Cymry yn y gêm, 12 - 17 y sgôr ar yr egwyl.

Methu cyfle

Doedd Cymru methu a manteisio ar gael dyn ychwanegol ar ddechrau'r ail hanner, ond sgoriodd Halfpenny ei bumed gic gosb i ddod a Cymru o fewn dau bwynt ar yr awr.

Cafodd y propiau Gethin Jenkins a Coenie Oosthuizen gardiau melyn am beidio â chadw'r sgrym i fyny oedd yn golygu nad oedd cystadlu yn y sgrym am y 10 munud.

Methodd Lambie gyda chic gosb ond sgoriodd Fourie du Preez yn fuan wedyn, y mewnwr yn cael lwc y bêl wrth ddilyn ei gic ei hun, er bod amheuaeth bod Jaque Fourie yn camsefyll yn ystod y symudiad.

Gyda 10 munud yn weddill roedd De Affrica ar y blaen o 9 pwynt, ond torrodd Sam Warbuton a Scott Williams drwy'r amddiffyn, cyn gosod y bêl i George North a'r olwyr i gael rhedeg at y linell.

Aeth y Cymry o fewn pum metr i sgorio cais, ond cafodd y bêl ei golli ymlaen ac roedd y cyfle wedi mynd.

Dyna oedd y cyfle mawr olaf i'r cochion, a bydd hi'n siom i Gymru nad oedden nhw wedi manteisio ar gael gymaint o feddiant o'r bêl.

Llwyddodd y Springboks i leihau eu camgymeriadau a manteisio ar eu cyfleoedd, a dyna oedd y gwahaniaeth yn y diwedd.

Cymru - 15

Ciciau Cosb: Halfpenny (5)

De Affrica - 24

Ceisiau: De Villiers, Du Plessis, Du Preez Tros: Steyn (2), Lambie Ciciau Cosb: Steyn

Cymru

Leigh Halfpenny, George North, Jonathan Davies, Scott Williams, Liam Williams, Rhys Priestland, Mike Phillips; Gethin Jenkins, Richard Hibbard, Adam Jones, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (capten), Toby Faletau.

De Affrica

Pat Lambie, JP Pietersen, Jaque Fourie, Jean de Villiers (capten), Bryan Habana, Morne Steyn, Fourie du Preez; Tendai Mtawarira, Bismarck du Plessis, Frans Malherbe, Eben Etzebeth, Flip van der Merwe, Francois Louw, Willem Alberts, Duane Vermeulen.

Dyfarnwr: Alain Rolland

Straeon perthnasol