Caerdydd yn colli yn Villa

  • 9 Tachwedd 2013
Aston Villa
Image caption Doedd Aston Villa heb sgorio mewn dros saith awr o chwarae cyn y fuddugoliaeth

Sgoriodd Leandro Bacuna gic rydd arbennig i Aston Villa wrth i Gaerdydd golli o 2-0 yn Villa Park ddydd Sadwrn.

Doedd Villa heb sgorio mewn dros saith awr o chwarae cyn i'r asgellwr o'r Iseldiroedd rwydo wedi 76 o funudau.

Daeth yr ail llai na deg munud wedyn, wrth i Libor Kozak benio i'r rhwyd i sicrhau'r fuddugoliaeth gyda chwe munud ar ôl.

Dyma'r tro cyntaf i Villa beidio ildio gôl mewn 16 gêm, ac mae'r fuddugoliaeth yn eu symud i'r 10fed safle.

Doedd Caerdydd methu a chwarae yn y ffordd roddodd fuddugoliaeth iddyn nhw dros Abertawe wythnos diwethaf, a daeth y gôl gyntaf wedi trosedd gan Gary Medel ar Leandro Bacuna.

Cododd Bacuna i gymryd y gic ei hun, a rhwydo gydag ergyd arbennig.

Wrth i Gaerdydd geisio sicrhau pwynt yn hwyr, aeth y gêm yn fwy agor a llwyddodd Kozak i benio wedi i Matt Lowton roi'r bel ar draws wyneb y gôl.

Mae'r golled yn gadael Caerdydd yn y 13eg safle, un lle uwchben Abertawe, sy'n chwarae ddydd Sul.

Aston Villa 2 - 0 Caerdydd

01 Guzan 07 Bacuna 06 Clark15 Westwood 04 Vlaar 02 Baker 08 El Ahmadi (Lowton - 74' ) 24 Tonev 20 Benteke 27 Kozák (Bowery - 88' ) 18 Sylla 01 Marshall 28 Théophile-Catherine 03 Taylor 08 Medel 04 Caulker 06 Turner 19 Cowie 17 Gunnarsson (Mutch - 65' ) 11 Odemwingie (Campbell - 55' ) 07 Whittingham 39 Bellamy (Maynard - 82' )