Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cymraes yn y storm

8 Tachwedd 2013 Diweddarwyd 21:45 GMT

Tua naw deg milltir yr awr oedd cyflymder y gwyntoedd cryf wnaeth lorio coed a gwifrau trydan yng Nghymru ddechrau'r wythnos. Roedd grym y corwynt nerthol sydd wedi achosi dinistr mawr ar Ynysoedd y Philipinau dros yr oriau diwethaf dros ddwbl hynny - bron yn 200 milltir yr awr. Ac mae Cymraes yng nghanol y storm. Adroddiad Aled Huw.