Cwest: gweithiwr amaethyddol

  • 7 Tachwedd 2013

Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio wedi i weithiwr amaethyddol gael ei ladd ar Hydref 31.

Cafodd Geraint Rees, 40 oed, ei ladd wrth i offer aredig gael eu defnyddio.

Roedd yn byw yn Hampton Bishop ger Henffordd ond yn wreiddiol o Lanrhian, Tyddewi.