Beirniadu 'achosion cudd' yn erbyn yr heddlu

  • 6 Tachwedd 2013
Ffigwr cyfiawnder
Image caption Bydd yr achosion nawr yn cael eu clywed mewn Tribiwnlys Pwerau Ymchwiliol yn hytrach na mewn llys agored

Mae grŵp o brotestwyr o Gymru wedi beirniadu penderfyniad y Llys Apêl y bydd yn rhaid i'w hachosion yn erbyn heddlu cudd gael eu clywed y tu ôl i ddrysau caeedig.

Mae'r ymgyrchwyr, sy'n cynnwys tri o Gaerdydd, yn dwyn achos yn erbyn swyddogion heddlu ar sail honiadau eu bod wedi cael perthynas rywiol gyda merched fel rhan o'u swyddi.

Ddydd Mawrth dyfarnodd y Llys Apêl y byddai'n rhaid i'r achosion gael eu cynnal yn gyfrinachol fel rhan o 'Dribiwnlys Pwerau Ymchwiliol'.

Roedd Tom Fowler yn rhan o grŵp ymgyrchu o Gaerdydd, a fu'n destun ymchwiliad yr heddlu.

Dywedodd wrth BBC Cymru fod ganddo bryderon y bydd yr achos nawr yn cael ei gynnal y tu ôl i ddrysau caeedig.

'Protestio democrataidd'

"Pan ry'ch chi'n siarad am bethau fel MI5 neu MI6, mae hynny'n filltiroedd i ffwrdd o'r pwerau mae'r Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol 2000 yn ei roi i swyddogion ar lefel is mewn amryw o awdurdodau cyhoeddus i ganiatáu defnyddio tactegau fel rhyw trwy dwyll fel modd o gael gwybodaeth gan aelodau cyffredin o'r cyhoedd," meddai.

"Dyw hyn ddim yn fater o derfysgaeth - rydyn ni'n siarad am brotestio democrataidd sylfaenol iawn."

Yn ôl y protestwyr, dyw hi ddim yn deg nad yw dioddefwyr mewn achosion cyfrinachol yn cael cyfle i gynrychioli eu hunain a chyflwyno'u dadleuon, dim ond cyflwyno tystiolaeth heb fynychu'r gwrandawiadau.

Ond mae'r Athro Anthony Glees, Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Diogelwch a Chudd-wybodaeth ym Mhrifysgol Buckingham, yn dadlau bod yna gyfiawnhad dros gynnal achosion o'r fath yn gyfrinachol.

'Derbyniol'

Wrth siarad ar raglen Good Morning Wales ar BBC Radio Wales ddydd Mercher, dywedodd: "Mae'r Tribiwnlys Pwerau Ymchwiliol yn fodd o wrando ar dystiolaeth, nid o reidrwydd gan bobl sy'n rhan o'r achos, ble mae'r dystiolaeth unai'n gyfrinachol oherwydd ei fod wedi'i gael mewn modd nad yw'r llywodraeth eisiau ei ddatgelu, neu petai ei ddatgelu ddim o fudd i'r cyhoedd.

"Dim ond nifer fechan iawn o achosion ry'n ni'n sôn amdanyn nhw.

"Rwy'n credu ei bod yn iawn nad yw tactegau heddlu gwrth-derfysgaeth, er enghraifft, yn cael eu datgelu i'r cyhoedd.

"Ac rwy'n credu ei bod yn dderbyniol, mewn nifer fechan iawn o achosion, i fanteisio ar wendidau pobl er mwyn cael cuddwybodaeth - boed y gwendidau hynny'n rhai rhywiol, neu'n ymwneud ag arian neu gyffuriau.

"Mae'n ochr frwnt iawn i fywyd, ond mae'n rhaid i ni fyw yn y bywyd go iawn. Mae gan yr heddlu a'r awdurdodau ddyletswydd i'n hamddiffyn rhag pobl allai wneud pethau peryglus neu ddrwg."

Hefyd ar y BBC