Gwn ar fws ysgol: Tri yn y ddalfa

  • 5 Tachwedd 2013

Mae tri o bobl ifanc yn y ddalfa wedi i'r heddlu gael eu galw oherwydd digwyddiad yn ymwneud â gwn awyr ar fws ysgol fore Mawrth.

Fe gafodd heddlu arfog eu hanfon i ddelio â'r sefyllfa.

Ar y bws ar y ffordd i Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin oedd y disgyblion pan gafodd yr heddlu eu galw.

Chafodd neb ei anafu.

Dywedodd y Prif Arolygydd Nicky Carter: "Rwy'n awyddus i sicrhau'r cyhoedd ein bod wedi delio â hyn yn gyflym.

"Cafodd gwn awyr ei ddarganfod ac mae swyddogion yn ceisio sefydlu yn union beth ddigwyddodd.

"Bydd swyddogion yn aros yn yr ysgol er mwyn tawelu meddwl y disgyblion a'r staff."