Macclesfield 3-2 Wrecsam

  • 2 Tachwedd 2013
Brett Ormerod Image copyright Arall
Image caption Roedd yr eilydd Brett Ormerod yn meddwl ei fod wedi ennill pwynt i'r Cymry

Connor Jennings yn yr eiliadau ola' dorrodd galonnau cefnogwyr Wrecsam.

Cafodd Macclesfield gic o'r smotyn yn y funud gynta' a llwyddodd Jennings wedi i'r golwr Andy Coughlin ei faglu.

Joe Anyinsah darodd yn ôl i Wrecsam cyn i Jennings sicrhau bod Macclesfield ar y blaen cyn yr egwyl.

Roedd yr eilydd Brett Ormerod yn meddwl ei fod wedi ennill pwynt i'r Cymry ond sgoriodd Jennings ei drydedd gôl yn ystod yr amser ychwanegol.