Gleision a Scarlets yn ennill

  • 3 Tachwedd 2013
Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Weithiau roedd yr Eidalwyr yn bygwth

Gleision 17-13 Treviso

Roedd y sgôr yn fwy agos na'r disgwyl ym Mharc yr Arfau.

Yn yr 20 munud gynta' roedd y Gleision â'r llaw ucha' ond yn yr 20 munud ddilynol cafodd y Cymry eu gyrru'n ôl.

Y sgôr hanner amser oedd 10-13.

Roedd 10 newid yn y tîm cartre' gollodd yn erbyn Ulster a naw o'u chwaraewyr ddim yn chwarae am eu bod yng Ngharfan Cymru.

Buddugoliaeth haeddiannol i'r Gleision er bod hon ddim yn glasur.

Weithiau roedd yr Eidalwyr yn bygwth ond roedd y gwynt a'r glaw yn fwy o her.

Scarlets 17-9 Ulster

Roedd yr amgylchiadau yr un mor anodd ym Mharc y Scarlets, ond y tîm cartref gipiodd y pwyntiau yn erbyn Ulster, oedd heb golli ers chwe gêm.

Daeth cais i George Earle a naw pwynt o droed Aled Thomas i'r Scarlets, a doedd dim ateb gan y Gwyddelod.

Doedd y ffaith i ddau o chwaraewyr Ulster weld cerdyn melyn ddim yn help i'w hachos, ac fe ddaliodd y Scarlets eu gafael ar y fantais i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Munster 12-6 Gweilch

Gyda llu o chwaraewyr y ddau dîm i ffwrdd ar ddyletswydd rhyngwladol, gêm ddiflach a gafwyd ym Munster.

Ni ddaeth cais i'r un o'r ddau dîm, ond Munster enillodd frwydr y cicio gyda phedair gôl gosb yn erbyn dwy yr ymwelwyr.