Car yn taro yn erbyn bachgen ym Mhontypridd

  • 30 Hydref 2013

Cafodd bachgen ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael ei daro gan gar ym Mhontypridd ddydd Mercher.

Fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw i'r digwyddiad ar Stryd Taf am 12:31yh.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Fe gawson ni ein galw wedi adroddiadau fod car wedi bod taro cerddwr ar Stryd Taf, Pontypridd.

"Fe wnaethon ni anfon cerbyd ymateb brys ac ambiwlans i'r safle a chafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg."

Does dim manylion pellach am gyflwr y bachgen.