Dirwyn cronfa fuddsoddi i ben

Tiroedd RIFW
Cafodd 16 darn o dir eu gosod mewn un pecyn i'w gwerthu

Mae cronfa adfywio sy'n destun ymchwiliad Swyddfa Archwilio Cymru wedi cael ei chau gan Lywodraeth Cymru.

Mae archwilwyr yn edrych ar werthiant 16 darn o dir o eiddo cyhoeddus a gafodd eu gwerthu am tua £20 miliwn gan Gronfa Fuddsoddi Cymru mewn Adfywio.

Mae pryderon y gallai'r tir fod wedi creu degau o filiynau o bunnoedd yn fwy i'r trethdalwr.

Canolbwynt yr ymchwiliad yw'r penderfyniad i werthu'r safleoedd yn breifat yn hytrach nag mewn ocsiwn gyhoeddus.

Yr wythnos hon mae Heddlu De Cymru wedi dweud eu bod yn ystyried a oes angen ymchwiliad i werthiant y tir gan y gronfa ai peidio.

Dywedodd y Gweinidog Tai Carl Sargeant y byddai, yn dilyn ymgynghoriad, yn dod â gweithgareddau buddsoddi'r gronfa i ben.

Hefyd dywedodd bod effeithiolrwydd y gronfa wedi ei niweidio'n ddifrifol gan effaith gronnol yr ymchwiliadau ac y byddai cau'r gronfa yn rhyddhau arian i gael ei fuddsoddi mewn meysydd eraill.

Bwndel

Ym mis Mawrth y llynedd fe gafodd darnau o dir ar draws Cymru eu gwerthu i gwmni o Guernsey o'r enw South Wales Land Developments.

Yn hytrach na chynnal proses dendro agored fe aed at 18 o asiantau eiddo a datblygwyr ac fe gafodd y safleoedd eu gosod mewn bwndel mewn un portffolio yn hytrach na'u gwerthu ar wahân.

Dechreuodd Swyddfa Archwilio Cymru eu hymchwiliad y llynedd.

Ym mis Gorffennaf dywedodd Mike Usher, Cyfarwyddwr Grŵp Swyddfa Archwilio Cymru: "Tra bod ein hastudiaeth yn edrych ar bob elfen o'r gronfa, gan gynnwys ei threfniadau llywodraethu a'u goruchwyliaeth gan Lywodraeth Cymru, rydym hefyd yn dechrau archwiliad manwl o bob trosglwyddiad gwerthu tir a phenderfyniadau buddsoddi.

"Yn arbennig, mae ein harchwilwyr yn edrych ar benderfyniadau'r gronfa i werthu tir yn breifat yn hytrach na thrwy ocsiwn gyhoeddus."

Tai newydd

Roedd natur y pecynnau tir yn amrywio o ffermydd yng Ngwynedd i hen safle diwydiannol yng Nghwm Cynon a rhan o barc busnes yng Nghasnewydd.

Ond yr ardal â'r gwerth mwyaf oedd darn 120 erw o dir fferm ger pentref Llysfaen ar gyrion gogleddol Caerdydd oedd wedi bod o dan berchnogaeth gyhoeddus am flynyddoedd.

Cafodd y tir ei werthu am gyfradd amaethyddol o tua £15,000 yr erw ond bedwar mis yn ddiweddarach fe gafodd ei gynnwys yng nghynllun Cyngor Caerdydd ar gyfer tai newydd.

Arweiniodd hynny at ran o'r tir ymysg y mwyaf gwerthfawr yng Nghymru gyda phris potensial o £1 miliwn yr erw.

Mae yna fecanwaith mewn lle sy'n golygu y bydd y trethdalwr yn medru rhannu unrhyw gynnydd yng ngwerth y tir.

Nid yw'r ffigwr yna wedi cael ei ddatgelu ond mae BBC Cymru ar ddeall nad yw'n fwy na 50% o'r cynnydd.

Safle gwerthfawr arall oedd darn 16 erw o dir ar gyrion Trefynwy a oedd yn werth tua £1 miliwn ym marn Llywodraeth Cymru.

Ers y gwerthiant mae cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno i Gyngor Sir Fynwy gan South Wales Land Developments am 370 o dai.

Yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr fe roddwyd gwerth o £100,000 ar ddarn o dir ger y Pîl. Ers hynny cafodd cais cynllunio ei gyflwyno i Gyngor Pen-y-bont gan South Wales Land Developments am 94 o dai.

Er bod mecanwaith mewn lle i gael arian yn ôl yn achos Llysfaen a Threfynwy, nid yw hwnnw'n weithredol yn achos darnau eraill o dir.

Ymchwiliadau

Cafodd pryderon am y dull o werthu'r tiroedd ei gyfeirio i archwilwyr yn gyntaf gan yr Aelod Cynulliad Ceidwadol Byron Davies.

Roedd y tiroedd wedi bod o dan berchnogaeth gyhoeddus am flynyddoedd lawer wedi iddyn nhw gael eu prynu gan Awdurdod Tir Cymru ac Asiantaeth Ddatblygu Cymru cyn dod o dan reolaeth Llywodraeth Cymru.

Cafodd y tiroedd eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i'r gronfa n 2010 - mae'r corff yn gweithredu hyd braich ond yn dal o dan reolaeth Llywodraeth Cymru.

Cafodd y gronfa sefydlu i fuddsoddi yn adfywiad canol trefi a chafodd ei hariannu gan arian o Lywodraeth Cymru ac Ewrop.

Yn hytrach na darparu'r arian yn uniongyrchol fe grëwyd cyllid Llywodraeth Cymru gan y gronfa drwy werthu'r 16 darn o dir am tua £21 miliwn.

Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi atal y gronfa fuddsoddi ranbarthol dros dro ac wedi dechrau dau ymchwiliad cyn y penderfyniad ddydd Gwener.

Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y gwerthiant, gan ddweud fod y swm yn fwy na'r gwerth annibynnol y farchnad a roddwyd ar y tir, a bod y darnau o dir wedi eu rhoi at ei gilydd er mwyn atal datblygwyr rhag dewis y safleoedd gorau yn unig.

Masnachol

Dywedodd South Wales Land Developments bod y ddêl wedi arwain at weithgaredd masnachol oedd ei angen ar y safleoedd wedi blynyddoedd lle na fu prin unrhyw weithgaredd.

Roedd y ddau gorff yn honni y byddai'r mecanwaith i gael arian yn ôl yn adlewyrchu unrhyw gynnydd sylweddol yng ngwerth y tir.

Fe geisiodd BBC Cymru gael ymateb gan lefarydd ar ran y gronfa ond ni ddaeth ymateb.