Corff cyhoeddus 'wedi peryglu bywydau'

  • 18 Hydref 2013
Gwastadeddau Gwent
Mae Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg yn gyfrifol am ardal gwastadeddau Gwent

Dylai'r modd y cafodd corff sy'n cael ei ariannu o'r pwrs cyhoeddus ei redeg fod yn esiampl o sut i beidio ymddwyn, yn ôl pwyllgor yn y Cynulliad.

Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi cyhoeddi adroddiad am weithredoedd Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg sy'n dweud bod anghydfodau staffio a dadlau o fewn y bwrdd wedi digwydd oherwydd trefniadau llywodraethu gwael.

Dywed yr adroddiad bod newidiadau sylweddol wedi digwydd i staff a gweithrediadau'r bwrdd ers i archwilion o gyfrifon y corff gael eu gwneud yn 2010-11, ac nad yw'r adroddiad yn adlewyrchiad o'r tîm rheoli presennol.

Er hynny mae'r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau clir ar atebolrwydd Byrddau Draenio Mewnol sy'n gweithredu'n bennaf yng Nghymru gan ddefnyddio arferion gwael y bwrdd fel enghraifft i rybuddio sefydliadau cyhoeddus eraill i'w hosgoi.

Teithiau tramor

Mae gan Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg gyllideb flynyddol o dros £1 miliwn ac mae'n gyfrifol am reoli draenio ar wastadeddau Gwent rhwng Cas-gwent a Chaerdydd.

Mae cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, Darren Millar AC, wedi dweud nad oedd y Bwrdd yn monitro a datblygu gweithredu cynllun rheoli risg llifogydd ar Wastadeddau Gwent, ac y "gallai hynny fod â'r potensial i beryglu bywydau ac eiddo miloedd o bobl".

Wrth astudio cyfrifon y corff am 2010-11, dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru mewn adroddiad nad oedd gan y corff fawr ddim o ran cyfansoddiad wedi'i gymeradwyo a bod ei reolau sefydlog - sef y rheolau i'w defnyddio wrth lywodraethu'r bwrdd - wedi hen ddarfod.

Mae'r adroddiad hefyd yn son am anghysonderau o ran sut yr oedd rhai o uwch staff wedi dyfarnu codiadau cyflog i'w hunain ac i eraill.

Bu'r bwrdd rheoli hefyd ar deithiau i'r Eidal, Gogledd Iwerddon a'r Iseldiroedd heb achos busnes i gyfiawnhau'r angen, ac ni chafodd cofnod ei gadw o weithgareddau'r bwrdd ar y teithiau na thystiolaeth o'r hyn a ddysgwyd o'r ymweliadau.

Ddim yn unigryw?

Ychwanegodd Darren Millar AC: "Mae'r cyfan yn enghraifft berffaith o sut i beidio â rheoli sefydliad sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus.

"Yn anffodus nid yw o reidrwydd bod y problemau yng Nghil-y-coed a Gwynllŵg yn unigryw, felly rydym yn argymell i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r enghraifft hon i atgoffa cyrff cyhoeddus eraill o'u cyfrifoldebau a'r angen i gael trefniadau llywodraethu da a chyfeiriad strategol clir."

Yn adroddiad y pwyllgor mae 12 argymhelliad, gan gynnwys :-

  • Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau clir ar atebolrwydd Byrddau Draenio Mewnol sy'n gweithredu'n bennaf neu'n gyfan gwbl yng Nghymru;
  • Dylai Llywodraeth Cymru adolygu trefniadau llywodraethu Byrddau Draenio Mewnol sy'n gweithredu'n bennaf neu'n gyfan gwbl yng Nghymru a bod system o fonitro trefniadau llywodraethu yn cael ei chyflwyno er mwyn sicrhau eu bod yn dryloyw ac yn cyd-fynd â'r arfer gorau mewn rhannau eraill o'r sector;
  • Dylai Llywodraeth Cymru ailgyhoeddi canllawiau ar lywodraethu gan dynnu sylw at y problemau a gafwyd ym Mwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg er mwyn dangos yr hyn all fynd o'i le.