Tipyn o gamp

Harry Wilson
Image caption Daeth Harry Wilson i'r maes wedi 87 munud

Mae taid Harry Wilson ar ei ennill ar ôl gweld ei ŵyr yn dod i'r maes fel eilydd i dîm pêl-droed Cymru nos Fawrth yng Ngwlad Belg.

Pan welodd Pete Edwards Harry yn cicio pêl yn yr ardd pan oedd yn 18 mis oed, fe benderfynodd osod bet y byddai'r bachgen bach yn mynd ymlaen i chwarae pêl-droed rhyngwladol.

Mae'r bet o £50 a osododd ym 1999 yn golygu fod Mr Edwards wedi mynd am daith arall i'r bwcis ddydd Mercher i gasglu enillion o £125,000.

Roedd Mr Edwards, 62 oed, yn gwylio'r gêm ar gyfrifiadur yn ei garafán nos Fawrth, a bellach mae wedi ymddeol flwyddyn yn gynt nag yr oedd wedi bwriadu.

Roedd Harry Wilson wedi dod i sylw nifer o glybiau mawr cyn arwyddo cytundeb ieuenctid gyda Lerpwl.

Gan fod ei nain o Gaer, fe fyddai wedi bod yn gymwys i chwarae i Loegr hefyd, ond drwy dorri record Gareth Bale fel y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae i Gymru, mae Wilson wedi datgan ei hyn i fod yn Gymro am oes - yn llygaid FIFA beth bynnag.

Daeth Wilson i'r maes fel eilydd wedi 87 munud o'r gêm yn erbyn Gwlad Belg - funud cyn i Aaron Ramsey sgorio'r gôl a sicrhaodd gêm gyfartal i Gymru.

Straeon perthnasol