Pedwar achos newydd o'r frech goch

  • 14 Hydref 2013
Nodwydd
Image caption Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i frechu eu plant

Mae 'na bedwar achos newydd o'r frech goch wedi eu darganfod, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Erbyn hyn mae saith achos wedi eu cysylltu ag Ysgol Cwmtawe yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Yr wythnos ddiwetha' cafodd teuluoedd wybod bod dau o blant Ysgol Y Cribarth, Powys, yn diodde' o'r frech goch.

Dywedodd y corff iechyd bod y ddau achos yn gysylltiedig ag un o'r achosion yn Ysgol Cwmtawe.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud mai dim ond un brechiad yn erbyn y frech goch gafodd un o'r disgyblion.

Ni chafodd y gweddill unrhyw frechlyn MMR.

Mae rhieni'r plant yn y ddwy ysgol wedi derbyn llythyr yn eu hannog i roi'r brechlyn i'w plant.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.