Cerddwr wedi'i anafu mewn gwrthdrawiad ger Caerffili

  • 13 Hydref 2013

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi i gerddwr gael ei anafu mewn gwrthdrawiad yng Nghefn Fforest, Caerffili.

Fe ddigwyddodd am 3:35yb ddydd Sul.

Mae'n ymddangos fod car du Toyota Avensis wedi taro yn erbyn dyn.

Cafodd y cerddwr ei gludo i Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful gydag anafiadau difrifol.

Bu'n rhaid cau'r ffordd am gyfnod wrth i swyddogion ymchwilio i'r digwyddiad ond mae'r ffordd wedi ailagor erbyn hyn.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr hyn ddigwyddodd gysylltu gyda'r heddlu ar 101.