Diweithdra: 'Angen arian Ewrop,' medd yr ASE Jill Evans

  • 12 Hydref 2013
Jill Evans
Bu Jill Evans yn annerch cynhadledd ei phlaid yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.

Mae Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans, wedi galw am arian Ewropeaidd i fynd i'r afael â diweithdra hirdymor ymhlith yr ifanc yng Nghymru.

Gwnaeth yr alwad wrth annerch cynhadledd ei phlaid yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.

Yn ôl Ms Evans, mae'r Undeb Ewropeaidd wedi ymrwymo 6m Ewro i ranbarthau a chenhedloedd Ewropeaidd lle ceir cyfradd diweithdra ieuenctid o fwy na 25%.

Ond mae "Cymru'n colli allan" ar nawdd ychwanegol, medd hi, gan fod diweithdra pobl ifanc yn 22% ar hyn o bryd.

'Niweidio'

Mae'n poeni am effaith diweithdra hirdymor ar bobl ifanc, gan ei fod yn "niweidio hunan-hyder a chyfleoedd bywyd ar gyfer y dyfodol, gan olygu fod risg na fydd y bobl ifanc hyn fyth yn cyflawni eu potensial".

Ei dadl yw bod rhoi diwedd ar y diweithdra hirdymor "yn rhan allweddol o greu cymdeithas well i Gymru".

Yn ôl yr ASE: "Mae nifer y bobl ifanc sydd allan o waith am fwy na 12 mis bedair gwaith yn fwy nag yr oedd ddwy flynedd yn ôl - o 1,400 o bobl i 5,7000.

"Gall mynediad i nawdd o'r cynllun Ewropeaidd hwn nodi'r gwahaniaeth rhwng oes o waith ac oes o ddiweithdra ar gyfer y bobl ifanc.

"Bydd Plaid Cymru yn lobïo yn Ewrop ac ar bob lefel i Gymru gael mynediad i'r nawdd hwn fel y gallwn ddod o hyd i waith i'r bobl hyn."

'Penderfyniadau positif'

Rhoddodd y cynadleddwyr groeso cynnes i'r llwyfan yn ystod y prynhawn i Aelod Cynulliad mwya' newydd Cymru, Rhun ap Iorwerth. Yn ei araith, dywedodd yr Aelod dros Ynys Môn ei fod yntau, " a phawb sy'n aelodau o Blaid Cymru, wedi dweud wrth ein hunain ein bod ni am ysgwyddo cyfrifoldeb dros ddyfodol ein cenedl ni".

Ychwanegodd fod pob un sydd wedi pleidleisio dros Blaid Cymru wedi penderfynu "ein bod ni ddim yn hapus i bleidleisio heb feddwl, 'da ni am 'neud penderfyniad positif dros ein cymunedau a dros ddyfodol Cymru".

Rhoddodd deyrnged i waith ei ragflaenydd ar yr ynys, y cyn Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones, a ddangosodd, meddai, "sut beth ydi Plaid Cymru mewn llywodraeth genedlaethol - sut mae Plaid Cymru'n gallu torchi llewys a mynd i'r afael â rhai o wir broblemau Cymru, a sut mae'r Blaid yma'n barod i gymryd camau dewr ac arloesol er mwyn sicrhau ffyniant economaidd a thegwch cymdeithasol".

Soniodd am rai o gyflawniadau'r blaid tra mewn llywodraeth "fel atal ysbytai rhag cael eu hisraddio, i roi statws swyddogol i'r Gymraeg am y tro cynta', sefydlu'r Coleg Cenedlaethol - gymaint o gamu bras mewn un cyfnod o lywodraeth".

Nod y blaid nawr, meddai, yw "trawsnewid" Cymru, a hynny "efo tîm Plaid Cymru yn arwain llywodraeth fwyafrif".

Cyfiawnder

Yn ei araith yntau, galwodd Elfyn Llwyd AS ar Lywodraeth San Steffan i gyflwyno Mesur Hawliau Dioddefwyr, a hynny er mwyn "rhoi dioddefwyr trosedd yn ôl wrth galon y broses gyfiawnder".

Dywedodd Mr Llwyd, arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, bod rhaid i'r llywodraeth wneud mwy i atal dioddefwyr rhag dioddef "erledigaeth yn sgil triniaeth wael o fewn y system cyfiawnder troseddol".

Yn ôl yr AS, aelod o Bwyllgor Cyfiawnder Tŷ'r Cyffredin, fe fyddai'r mesur yn rhoi pŵer i'r heddlu ddatgelu gwybodaeth am ymddygiad troseddwr i unrhyw bartner newydd.

Fe fyddai, medd ef, yn cyflwyno rhagdybiaeth na ddylai unrhyw un a gyhuddir o drosedd dreisgar neu rywiol ddifrifol gael eu rhyddhau ar fechnïaeth oni bai bod amgylchiadau eithriadol.

Meddai: "Byddai ein cynllun yn rhoi grym i'r heddlu ddatgelu gwybodaeth am ymddygiad blaenorol troseddwr i unrhyw bartner newydd - i wneud yn siŵr, er enghraifft, bod partneriaid troseddwyr rhyw a gollfarnwyd yn cael gwybod am y ffaith honno cyn dechrau teulu eu hunain gyda'r person.

"Mae Plaid Cymru hefyd am weld gweithredu mwy cadarn i fynd i'r afael â throseddau seiber oherwydd poblogrwydd cynyddol gwefannau cyfryngau cymdeithasol a rhannu gwybodaeth ar y rhyngrwyd, sy'n golygu ei bod yn haws nag erioed i gam-drin, bwlio, stelcian neu esgus bod yn rhywun arall ar-lein."

Ychwanegodd fod y blaid yn credu y dylid sefydlu Comisiwn Trawsbleidiol i edrych ar sut i ddelio â'r bygythiad cynyddol o drosedd a cham-drin ar y we ac y dylai'r comisiwn gynnwys cynrychiolwyr o'r sefydliadau datganoledig, Senedd y DU a Senedd Ewrop.

Yn ystod y gynhadledd, cyhoeddwyd hefyd mai Dr Dafydd Trystan Davies, cyn Brif Weithredwr Plaid Cymru, yw'r cadeirydd newydd i olynu Helen Mary Jones.