Bwriad i goffáu criw yn Llandudno wedi damwain yn 1944

Carreg fedd Image copyright Gwyn Hughes
Image caption Bedd yr Awyr Sarjant Samuels yn Eglwys Heneglwys, Ynys Môn

Mae bwriad i goffáu pump o ddynion a fu farw pan darodd eu hawyren y ddaear yn 1944.

Yr hanesydd o Ddeganwy, Gwyn Hughes, sydd wedi bod yn ymchwilio i archifau a holi llygad-dystion.

Bydd parc coffa'n cael ei agor yng Nghlwb Cymunedol Cyffordd Llandudno, ger safle'r ddamwain yng nghoedwig y Marl.

Mae plac a gwasanaeth coffa'n cael eu trefnu.

"Yn sicr, mae hon yn stori drychinebus," meddai'r hanesydd.

Roedd y criw, tri o Brydain, un o Wlad Pwyl ac un o Seland Newydd, yn ymarfer ac wedi gadael Maes Awyr Mona ar eu ffordd i Sir Gaerhirfryn.

Plant ysgol oedd ymlith y tystion adeg y drychineb yn Chwefror 1944.

"Mi glywon nhw sŵn uchel a gweld gweddillion yn syrthio o'r awyr.

"Pan darodd y ddaear doedd dim ffrwydrad," meddai Mr Hughes.

Tra bod adroddiad meddygol yn cyfeirio at Chwefror 16, mae rhai o'r beddau'n cyfeirio at ddyddiad arall, meddai.

Hyd y gwyddai ni chafodd adroddiad cynhwysfawr ei baratoi a dywedodd nad oedd yn gwybod pam.

Bydd teuluoedd tri o'r criw yn cael eu gwahodd i wasanaeth coffa ym mis Chwefror.

"Nhw yw'r rhai sy'n cofio'r ddamwain o hyd," meddai.

"A nhw sy' wedi dweud bod angen coffáu'r criw."