Gŵyl farddoniaeth yn denu beirdd o bob rhan o Ewrop

Astrid Lampe
Mae beirdd o dros Ewrop gyfan yn cymryd rhan yn yr ŵyl, gan gynnwys Astrid Lampe o'r Iseldiroedd

Mae Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru yn cael ei chynnal am yr ail dro gyda beirdd o dros Ewrop yn cymryd rhan.

Bydd perfformiadau yn cael eu cynnal ym Mangor, Aberystwyth, Yr Wyddgrug, Caernarfon a Phortmeirion fel rhan o'r ŵyl.

Bydd barddoniaeth newydd mewn amrywiaeth o ieithoedd yn cael eu cyflwyno gyda chyfieithiadau i'r Gymraeg a'r Saesneg.

Mae beirdd o Gymru sy'n ysgrifennu yn y ddwy iaith, gan gynnwys Twm Morys, Rhys Trimble, Ifor ap Glyn a Nia Davies, hefyd yn cymryd rhan.

Mae Dr Angharad Price wedi cyfieithu llawer o'r farddoniaeth fydd yn cael ei glywed yn yr ŵyl i'r Gymraeg ac mae hi hefyd yn cyflwyno un o'r digwyddiadau.

Meddai Dr Price: "Yn dilyn llwyddiant mawr yr ŵyl gyntaf y llynedd, mae pethau'n argoeli'n wych eto eleni, a digwyddiadau'n cael eu cynnal ar draws gogledd Cymru, o Theatr Clwyd i siop Palas Print Caernarfon, ac o Brifysgol Bangor i Bortmeirion.

Rhys Trimble
Mae Rhys Trimble ymhlith y beirdd o Gymru fydd yn cymryd rhan

"Mae'n ardderchog bod rhai o feirdd amlycaf Cymru yn cael y cyfle i ddarllen a pherfformio'u gwaith ar y cyd â beirdd o bron i ddwsin o wledydd Ewropeaidd, yn eu plith Armenia, Catalonia a Gwlad yr Ia - a hynny yn eu cynefin eu hunain.

"Mi fydd yma fwrlwm o eiriau a miwsig, a phob math o ieithoedd yn atseinio'n greadigol trwy'i gilydd - a'r Gymraeg yn eu canol.

"Mae'n siwr o ddenu gwrandawyr o bob cefndir."

Dywedodd Dr Zoë Skoulding, trefnydd yr ŵyl: "Weithiau dywedir fod barddoniaeth yn amhosibl i'w gyfieithu, ond mae cyfieithu ei hun yn weithred greadigol gyffrous sy'n dod â safbwyntiau diwylliannol gwahanol at ei gilydd mewn ffyrdd newydd.

"Mae'r ŵyl hon yn galluogi cynulleidfaoedd i ddod ar draws y seiniau unigryw mewn barddoniaeth fyw mewn gwahanol ieithoedd, tra'n darparu cyfieithiad i'r Gymraeg a'r Saesneg fel y gall pawb ddilyn yn hawdd."

Yn ogystal â darlleniadau rhyngwladol, mae rhaglen yr ŵyl yn cynnwys taith gerdded farddonol sy'n mynd â barddoniaeth i ganol Bangor ynghyd â noson meic agored.

Cynhelir yr ŵyl rhwng 17 - 22 Hydref 2013.