Senghennydd

  • 11 Hydref 2013

A fu enw llai addas ar gapel na Noddfa, Senghennydd? Yn sicr doedd na ddim Noddfa i fod i'r 439 o ddynion a bechgyn a laddwyd gan danchwa yng ngwaith y Universal yn Senghennydd yn Hydref 1913 yn y ddamwain ddiwydiannol waethaf yn hanes Prydain.

Roedd fy hen daid, Tawelfryn, yn weinidog ar y Groeswen, capel uwchlaw Senghennydd ar y pryd. Roedd e wedi bod yn weinidog ar Noddfa, Senghennydd hefyd yn ogystal ag Adulam, Abertridwr - capel arall wnaeth golli degau o'i aelodau yn y trychineb.

Yn ôl y chwedloniaeth deuluoedd cymerodd Tawelfryn ran mewn dros gant o angladdau yn y dyddiau a'r wythnosau ar ôl y ddamwain gan gynnwys yr angladd mwyaf dirdynnol yn hanes Cymru - hwnnw i'r "rheiny nis gellir eu hadnabod" ym mynwent Eglwysilan.

Dydd Llun cynhelir seremoni yn Senghennydd i nodi'r canmlwyddiant a thrwy gyd-ddigwyddiad yr wythnos hon fe aeth gwaith Unity, glofa ddofn olaf Cymru, i ddwylo'r derbynwyr.

Dyw stori'r diwydiant ddim cweit ar ben. Mae gweithfeydd glo brig yn dal i weithio a gallai Unity neu o ran hynny Aberpergwm ail-agor ond llai na mil o bobol sy'n gweithio yn niwydiant glo'r de erbyn hyn.

Ym mlwyddyn ei anterth cynhyrchodd y maes glo 56 miliwn tunnell o lo a chyflogwyd 232,800 o ddynion. Yn eironig ddigon 1913 oedd y flwyddyn honno.

A dyma ni, canrif yn ddiweddarach. Mae Noddfa ac Adulam wedi diflannu. 0.1% o boblogaeth Senghennydd ac Abertridwr sy'n gweithio mewn mwynfeydd a chwareli yn ôl cyfrifiad 2011 a rhan o ardal cymudo Caerdydd yw'r ddau bentref bellach. Dydyn nhw ddim yn arbennig o dlawd nac yn arbennig o gyfoethog o gymharu â gweddill Cymru.

Eto i gyd mae'r gymuned hon rhywsut yn crisialu holl deimladau cymysg pobl y maes glo tuag at y diwydiant. Does neb eisiau'r pyllau yn ôl ond erys rhyw hiraeth am yr hen frawdgarwch ac edmygedd o'r rheiny wnaeth aberthu eu hiechyd a'u bywydau er mwyn rhoi bwyd ar fordydd eu teuluoedd.

Wrth i Carwyn Jones ddadorchuddio cofeb genedlaethol y glowyr yn Senghennydd ddydd Llun mae'n briodol i ni oedi am eiliad i gofio'r diwydiant a wnaeth gymaint i greu'r Gymru fodern - ac i ddiolch i'r nefoedd ei fod yn dirwyn i ben.