Gwobr i ddynes lolipop o Fro Morgannwg am achub plant

Karin Williams yn derbyn ei gwobr, gyda phlant o'r ysgol, James Corden a gyflwynodd y wobr, a'i gŵr Lyndon Image copyright other
Image caption Karin Williams yn derbyn ei gwobr, gyda phlant o'r ysgol, James Corden a gyflwynodd y wobr, a'i gŵr Lyndon

Mae dynes lolipop, a neidiodd o flaen car aeth allan o reolaeth y tu allan i ysgol ym Mro Morgannwg, wedi ennill gwobr am ei dewrder.

Cafodd Karin Williams, 50, o'r Rhws, ei hanrhydeddu yng ngwobrau 'Pride of Britain' yn Llundain.

Roedd y fam i un wedi neidio o flaen car ger croesfan Ysgol Gynradd y Rhws ym mis Mehefin eleni er mwyn amddiffyn plant oedd yn croesi'r ffordd ar y pryd.

Roedd y gyrrwr 61 oed, a oedd yn gyrru ei wyres i'r ysgol, wedi colli rheolaeth o'r car Audi A3 ar ôl cael pwl o besychu.

Cafodd naw o bobl eu hanafu yn ystod y digwyddiad, a chafodd Ms Williams anafiadau difrifol.

Cafodd ei chludo i'r ysbyty ble cafodd lawdriniaeth ar ei phengliniau, coesau, penelin ac ysgwydd.

Fis diwetha' fe wnaeth hi ddychwelyd i'r ysgol i weld y disgyblion, a dywedodd yn ystod yr ymweliad hwnnw:

"Dim ond torri esgyr wnes i a bydd rheiny'n gwella. Rydych un ai'n dod drwyddi neu ddim a dydw i ddim yn mynd i roi lan.

"Alla' i ddim cofio rhyw lawer am beth ddigwyddodd - roedd y cyfan mor sydyn. Rwy'n cofio cael yr arwydd yn fy llaw, troi rownd a gweiddi a dyna ni.

"Y peth nesa' roedd 'na barafeddygon a dynion tân yn fy achub."

Yr actor James Cordon gyflwynodd y wobr i Ms Williams yn y seremoni yn Llundain.

Y cyhoedd sy'n dewis yr enwebiadau, gyda phanel wedyn yn dewis yr enillwyr.

Bydd rhaglen Pride of Britain yn cael ei darlledu ar ITV am 8:00yh nos Fawrth.

Straeon perthnasol