Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft

Arian

Bydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15 ddydd Mawrth.

Mae disgwyl y cyhoeddiad gan y Gweinidog Cyllid Jane Hutt tua 3:00yh.

I lywodraeth sy'n ceisio cael dau ben llinyn ynghyd mewn cyfnod o grebachu ariannol ers dechrau'r degawd, mae'n dalcen caled gan fod yr arbedion "hawdd" eisoes wedi cael eu gwneud.

Dros y misoedd diwethaf, mae newid wedi bod yn agwedd gweinidogion wrth iddyn nhw sylweddoli y bydd y toriadau'n parhau tan 2017 a thu hwnt.

Chwyddwydr ar iechyd

Felly beth allwn ni ddisgwyl o'r gyllideb ddrafft?

Fel arfer bydd y chwyddwydr ar wariant ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Yn y blynyddoedd diweddar, dyw'r GIG ddim wedi gweld cynnydd mawr yn y setliad, sy'n golygu bod chwyddiant wedi erydu grym gwario'r gwasanaeth flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Wedi haf o benawdau siomedig a thargedau'n cael eu methu, y teimlad nawr yw bod rhaid canfod yr arian i gynyddu cyllideb iechyd y wlad.

Ond beth fydd cost hynny? Dyma beth yw gwariant Llywodraeth Cymru fesul adran ar hyn o bryd :-

  • IECHYD: 43%;
  • LLYWODRAETH LEOL A CHYMUNEDAU: 35% (sy'n cynnwys cyllideb ysgolion a gofal cymdeithasol);
  • ADDYSG A SGILIAU: 13%;
  • TAI, ADFYWIO A THREFTADAETH: 4%;
  • BUSNES, MENTER A THECHNOLEG: 2%;
  • AMGYLCHEDD A DATBLYGIAD CYNALIADWY: 2%;
  • GWASANAETHAU CANOLOG A GWEINYDDU: 2%.

Mae mwyafrif llethol gwariant y llywodraeth felly wedi ei rannu rhwng dwy adran gydag iechyd y mwyaf o dipyn. Byddai unrhyw gynnydd sylweddol mewn gwariant ar iechyd yn debyg o gael effaith mewn adrannau eraill, a llywodraeth leol sy'n paratoi am newyddion drwg ddydd Mawrth.

Daeth awgrym o doriadau i gyllidebau cynghorau mewn araith gan y Gweinidog Llywodraeth Leol Lesley Griffiths i gynhadledd flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mis Mehefin eleni, pan ddywedodd nad yw'r warchodaeth y mae cynghorau Cymru wedi ei gael o gymharu â chynghorau Lloegr yn gynaliadwy.

Bydd hyn yn golygu penderfyniadau anodd mewn neuaddau sir ar draws Cymru, a gan fod cynghorau wedi cael eu gorchymyn i warchod gwariant ar ysgolion a gofal cymdeithasol, mae'r fwyell yn sicr o ddisgyn ar bethau fel hamdden, priffyrdd a gwasanaethau diwylliannol.

Dim mwyafrif

Ond cyllideb ddrafft yw hon, felly pa obaith sydd gan Llywodraeth Cymru o berswadio'r Cynulliad i gymeradwyo'r gyllideb?

Heb fwyafrif yn y Cynulliad, maen nhw wedi gorfod dod i gytundeb gydag un o'r pleidiau eraill er mwyn cymeradwyo cyllidebau'r blynyddoedd diweddar.

Eleni mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cytuno i gynnal trafodaethau ar y cyd, a gyda Carwyn Jones yn gwrthod unrhyw gytundeb gyda'r Ceidwadwyr ar egwyddor, does fawr o ddewis ar ôl gan ei lywodraeth.

Mewn blynyddoedd diweddar, mae trafodaethau am y gyllideb wedi para am wythnosau ar ôl cyhoeddi'r gyllideb ddrafft, ond mae'n ymddangos y tro hwn bod Bae Caerdydd wedi dangos mwy o aeddfedrwydd gwleidyddol. Yn dilyn adroddiadau o drafodaethau adeiladol gydol yr haf, mae'n bosib y gwelwn ni gyhoeddiad rhywbryd heddiw am gytundeb rhwng Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Sicrhau pleidleisiau i basio'r gyllideb fydd y rhan hawdd o'r gwaith. Bydd sicrhau bod y GIG yn gwneud y gorau o unrhyw arian ychwanegol, a chefnogi llywodraeth leol drwy effeithiau'r hyn sy'n debygol o fod y toriadau lwyaf llym yn oes wleidyddol y mwyafrif o gynghorwyr yn anoddach o lawer.