Bwriad i werth safle hen ladd-dy yn Y Gaerwen

  • 7 Hydref 2013
Welsh Country Foods
Cafodd 350 o swyddi eu colli pan gaeodd y ffatri yng Ngaerwen ym mis Ebrill.

Mae perchnogion safle cyn ladd-dy ar Ynys Môn wedi dweud y byddan nhw yn ei roi ar werth o fewn wythnosau.

Dri mis yn ôl prynodd grŵp Two Sisters hen adeiladau Welsh Country Foods yn Y Gaerwen.

Roedd o leia' un cwmni wedi mynegi diddordeb ond mae'r grŵp wedi penderfynu nad ydyn nhw angen y safle yn sgil adolygiad.

Cafodd bron 3,000 o swyddi eu diogelu wedi i'r grŵp brynu tair ffatri Vion ym mis Mawrth.

Ond doedd hynny ddim yn cynnwys pob ffatri Vion a chollodd 350 eu swyddi wedi i'r ffatri yng Ngaerwen gau ym mis Ebrill.

Ar y pryd roedd hon yn ergyd fawr i'r economi leol.