Pro 12: Sgarlets 12 - Glasgow 17

  • 6 Hydref 2013
Image caption Bydd y Sgarlets yn siomedig gyda'r canlyniad er bod perfformiadau diweddar Glasgow wedi bod yn rhai cadarn iawn

Collodd y Sgarlets yn erbyn Glasgow ym Mharc y Sgarlets nos Sadwrn, er gwaetha'r ffaith bod yr Albanwyr wedi cael dau gerdyn melyn yn ystod yr ail hanner.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Glasgow yn parhau i fod yr unig dîm sydd heb gael eu curo yng nghystadleuaeth y Pro 12.

Fe weithiodd Glasgow yn galed am y fuddugoliaeth - ond roedd cais yr un i Ryan Grant a Tim Swinson yn yr hanner cyntaf a chicio cywir Duncan Weir yn ddigon iddyn nhw ennill y gêm yn y diwedd.

Lwyddodd Rhys Priestland i drosi dair gwaith a Jordan Williams unwaith ond doedd y cochion ddim yn edrych fel eu bod yn debygol o sgorio cais.

Daeth cyfle gorau'r Sgarlets yn fuan yn yr ail hanner, ond fe wnaeth penderfyniad rhyfedd Jordan Williams i basio i'w gyd Williams, Liam, olygu bod y cyfle wedi ei wastraffu.

Byddent yn teimlo y dylen nhw fod wedi gwneud mwy yn ystod yr amser pan roedd Glasgow lawr i 14 dyn ond ni lwyddon nhw i dorri drwy'r amddiffyn.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Sgarlets yn seithfed wedi pum gêm .

Hefyd ar y BBC