Cwmni newydd i brynu maes sioe?

  • 3 Hydref 2013
Maes y sioe Image copyright BBC news online
Image caption Mae'r safle yn Nant-y-ci ger Caerfyrddin ar werth

Mae cwmni newydd wedi cael ei sefydlu er mwyn ceisio prynu maes sioe amaethyddol ger Caerfyrddin.

Fe gafodd hyn ei ddatgelu ar raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru ddydd Iau.

Cafodd hen safle Sioe'r Tair Sir ei roi ar werth ym mis Medi wrth i'r perchnogion geisio mynd i'r afael â dyledion o £1.3 miliwn.

Mae'r safle yn eiddo i elusen Cymdeithas Amaethyddol y Siroedd Unedig a'u gobaith yw codi digon o arian i brynu'r safle er mwyn cadw perchnogaeth yn lleol.

Pris y safle yn Nantyci yw £1.6 miliwn ac mae'r cwmni newydd yn gwerthu cyfranddaliadau am £10,000 yr un er mwyn codi'r arian.

Eisoes maen nhw wedi gwerthu chwarter cyfranddaliadau'r cwmni newydd.

Mae'r ddyled, medd y perchnogion, yn un hanesyddol ac wedi aros yn ei hunfan dros y blynyddoedd.

Rhoi'r gorau

Yn 2007 cyhoeddwyd na fyddai Sioe'r Tair Sir yn cael ei chynnal ar safle Nant-y-ci eto. Yn ei lle daeth Sioe Sir Gâr ond bu'n rhaid rhoi'r gorau i honno yn 2010.

Mae caniatâd cychwynnol i godi gwesty 100 gwely a gorsaf betrol ar ran o'r safle 75 erw dafliad carreg o briffordd yr A40.

Ond dywedodd Ellis Davies, trysorydd Cymdeithas Amaethyddol y Siroedd Unedig ac ysgrifennydd y cwmni newydd, y byddai'r safle'n cael ei werthu gydag amodau penodol er mwyn sicrhau ei ddyfodol fel safle ar gyfer cynnal sioeau amaethyddol a digwyddiadau tebyg.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.