Tywysog yn dathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth

  • 3 Hydref 2013
Tywysog Cymru
Dywedodd y Tywysog Charles ei fod yn falch cael recordio un o'i hoff gerddi

Mae Tywysog Cymru wedi recordio darlleniad o un o'i hoff gerddi gan Dylan Thomas, fel rhan o ddathliad cenedlaethol o farddoniaeth.

Dewisodd y Tywysog Charles 'Fern Hill' gan y bardd o Gymru ar gyfer y dathliad sy'n digwydd heddiw.

Mae nifer o weithgareddau i ddathlu canmlwyddiant geni'r bardd o Gymru yn digwydd dros y byd drwy gydol 2014.

Dywedodd y Tywysog ei fod yn falch iawn cael recordio un o'i hoff gerddi i'r ŵyl.

Mae recordiad y Tywysog o'r gerdd, sy'n rhoi awyrgylch plentyndod yng Nghymru wledig, yn cael ei roi ar y we ddydd Iau.

"Roeddwn yn falch iawn, os ychydig yn betrus - o fedru recordio un o fy ffefrynnau personol, 'Fern Hill', sy'n darlunio, mewn ffordd mor hiraethus, y profiad o fod yn blentyn yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru," meddai'r Tywysog.

"Ni allaf ond meddwl mai dyma un o'r pethau mawr y mae barddoniaeth Thomas yn ei wneud - sef ysbrydoli pobl i werthfawrogi tirlun digymar Cymru."

Ffefryn

Y Tywysog yw noddwr brenhinol Gŵyl Dylan Thomas 100, ac mae wedi ymweld â nifer o leoliadau yn ymwneud a bywyd Thomas dros y misoedd diwethaf.

Aeth y Tywysog i gartref y bardd yn Abertawe, a'r Tŷ Cwch yn Nhalacharn, Sir Gâr lle ysgrifennodd llawer o'i weithiau enwocaf ym mis Gorffennaf.

Mae sylfaenydd Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, William Sieghart, wedi croesawu recordiad y Tywysog.

Tŷ Cwch
Aeth y Tywysog i ymweld â'r Tŷ Cwch yn Nhalacharn ym mis Gorffennaf

"Does dim dwywaith bod Tywysog Cymru yn caru'r gerdd deimladwy hon," meddai.

"Gobeithiaf y bydd llawer yn dilyn ei esiampl wych ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth.

"Dyma ddiwrnod i ddarganfod cerdd yr ydych yn ei charu - a'i rhannu ag eraill."

Cafodd Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth ei sefydlu yn 1994, ac mae'n ceisio dathlu barddoniaeth dros y wlad gyda digwyddiadau byw, gweithgareddau a sgyrsiau.

Bydd y darlleniad i'w glywed ar wefan y Tywysog o 8.00 fore Iau.