Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Enillwyr Bafta Cymru 2013

30 Medi 2013 Diweddarwyd 11:04 BST

Cafodd sêr y byd ffilm a theledu eu hanrhydeddu yng ngwobrau Bafta Cymru nos Sul.

Roedd tair gwobr i ddrama 'Stella' gan Ruth Jones.

Cafodd cyflwynydd Newyddion BBC Cymru am dros 30 mlynedd, Dewi Llwyd, wobr arbennig am ei gyfraniad.

Ac enillodd rhaglen Newyddion wobr am eu darllediadau o'r Gemau Olympaidd y llynedd.

Michael Sheen oedd yr actor gorau, ac am ei phortread o Alys ar S4C, aeth gwobr yr actores orau i Sara Lloyd Gregory.

Adroddiad Sara Esyllt.

2 Hydref 2013: Yn ddiweddarach dywedodd Bafta Cymru eu bod wedi cyhoeddi ar gam fod Newyddion wedi ennill yng nghategori'r rhaglen newyddion orau. Fe ddylai'r wobr fod wedi mynd i raglen ITV Wales, Wales Tonight am eu sylw i'r chwilio am April Jones.