Damwain: Arestio gyrrwr

Mae gyrrwr 29 oed wedi ei arestio wedi i gerddwr 18 oed gael ei ladd ar ôl gwrthdrawiad gyda'r car.

Dywed Heddlu Gwent fod y bachgen ifanc wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad yng Nghefn Hengoed, Caerffili toc cyn un y bore ar ddydd Sadwrn.

Mae'r gyrrwr, sydd yn ddyn lleol wedi ei arestio ar amheuaeth o yrru yn beryglus ac mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.

Maent eisiau siarad gydag unrhyw un a welodd gar du BMW Compact o gwmpas ardal Hengoed Crescent ddydd Sadwrn.

Gellir cysylltu gyda'r heddlu trwy ffonio 101 a rhoi'r rhif cyfeirnod 263 28/9/13.