Fulham 1-2 Caerdydd

  • 28 Medi 2013
Jordon Mutch
Llwyddodd Jordon Mutch i sicrhau buddugoliaeth i Gaerdydd gyda gôl yn y munudau olaf.

Caerdydd 2-1 Fulham

Mae Caerdydd wedi ennill gêm oddi cartref yn erbyn Fulham.

Steven Caulker rhoddodd yr adar gleision ar y blaen gyda pheniad i gornel y rhwyd ar ddechrau'r gêm.

Mi chwaraeodd y clwb yn dda yn ystod yr hanner cyntaf ond daeth perl o gol gan Bryan Ruiz a hynny dri munud wedi iddo fynd ar y cae.

Yn yr ail hanner roedd hi'n ymddangos fod Fulham yn chwarae gyda mwy o egni ac roeddent yn dechrau bygwth.

Roedd y ddau dîm eisiau buddugoliaeth ac yn pwyso am y gôl nesaf.

Ond wrth i'r cloc dician dangosodd chwaraewr Caerdydd, Jordon Mutch ei fod ef hefyd yn medru sgorio goliau trawiadol.

Doedd dim gobaith gan y gôl geidwad David Stockdale wrth i'r bel daro cornel chwith y rhwyd.

Dyw Fulham ddim wedi ennill adref ers y cyntaf o Ebrill ac mae yna bwysau cynyddol rŵan ar y rheolwr Martin Jol ar ôl dechrau gwael i'w hymgyrch.