Cymraeg ail iaith: 'Unfed awr ar ddeg'

  • 27 Medi 2013
Dosbarth Cymraeg ail iaith
Galw am weithredu i atal y dirywiad mewn Cymraeg fel ail iaith yn ysgolion Cymru

Mae adroddiad newydd yn galw am newid cyfeiriad ar frys i atal dirywiad y Gymraeg fel ail iaith.

Cafodd yr adroddiad ei baratoi gan grŵp sydd wedi bod yn edrych ar y modd y mae'r pwnc yn cael ei ddysgu yn yr ysgolion. Llywodraeth Cymru sefydlodd y grŵp. Dywedodd cadeirydd y grŵp, yr athro Sioned Davies

"Heb os mae hi'n unfed awr ar ddeg ar y Gymraeg fel ail iaith. Mae lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn is nac y maen nhw mewn unrhyw bwnc arall. Petai hyn yn wir am Fathemateg, neu Saesneg, fe fyddai chwyldro wedi digwydd."

Diflas

Roedd yna dystiolaeth yn ôl yr adroddiad bod Cymraeg fel ail iaith yn brofiad diflas i nifer fawr o ddisgyblion ac nad oedden nhw yn gweld bod y pwnc yn berthnasol nac yn werthfawr iddyn nhw.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud nad yw'r disgyblion yn ddigon hyderus i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth a bod y cyfleoedd iddyn nhw wneud hynny yn gyfyngedig iawn.

Cafodd strategaeth Llywodraeth Cymru Iaith Fyw Iaith Byw ei chyhoeddi yn 2012. Mae honno yn gosod gweledigaeth ar gyfer cynyddu nifer y bobl sy'n siarad a defnyddio'r iaith.

Yn gynharach eleni cafodd adroddiad annibynnol ei gyhoeddi gan Robert Hill. Fe ddaeth e i'r casgliad mai dim ond mewn deg y cant o ysgolion cynradd yr oedd disgyblion yn gwneud cynnydd ardderchog wrth ddatblygu sgiliau Cymraeg ail iaith

Mae tua 80% o ddisgyblion yng Nghymru yn dysgu'r Gymraeg fel ail iaith.

"Etifeddiaeth pawb"

Cafodd yr adroddiad ei groesawu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Dywedodd y cadeirydd, Robin Farrar

"Rydyn ni'n croesawu'r adroddiad a allai olygu cam mawr ymlaen. Mae angen i Carwyn Jones gymryd cyfrifoldeb am dderbyn a gweithredu'r argymhellion yn syth, gan fod y mater yma mor bwysig i gyflwr y Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod.

"Rydan ni'n credu bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru - mae'n rhan o etifeddiaeth pawb o bob cefndir."

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones hefyd wedi croesawu'r adroddiad

"Fe fyddwn ni yn ystyried yr argymhellion yng nghyd-destun ehangach y Cwricwlwm Cenedlaethol a'r adolygiad o gymwysterau syn digwydd ar hyn o bryd"