Costa Concordia
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Caergybi'n cynorthwyo codi'r Costa

23 Medi 2013 Diweddarwyd 21:46 BST

Mae'r achos yn erbyn capten llong bleser y Costa Concordia wedi ail ddechrau.

Fe darodd y llong greigiau oddi ar arfordir yr Eidal fis Ionawr y llynedd gan ladd tri deg dau o'r teithwyr.

Mae'r broses gymhleth o godi'r llong yn ôl ar ei hechel bellach wedi ei chwblhau, ac roedd un cwmni o Gaergybi yn rhan ohoni.

Dyma adroddiad Llŷr Edwards ar Newyddion9 nos Lun.